Anneliese Heard
Seiclwraig rasio ac athletwraig triathlon o Gymru ydy Anneliese Heard (ganwyd 3 Tachwedd 1981).
Anneliese Heard | |
---|---|
Ganwyd | 3 Tachwedd 1981 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, triathlete |
Taldra | 164 centimetr |
Pwysau | 57 cilogram |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Magwyd Heard ym Masaleg ger Casnewydd. Cystadlodd yn ei ras triathlon cyntaf pan oedd yn 8 oed, gan ennill ras Cannock Chase yn y categori o dan 9 oed. Daeth yn Bencampwraig Ieuenctid Prydain pan oedd yn 12 oed. Roedd hi'n Bencampwraig Iau'r Byd ym 1999 a 2000. Cystadlodd yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf ym Manceinion yn 2002, lle gorffennodd yn y nawfed safle .[1] Roedd hefyd yn bresennol yn lansiad set o stampiau gan y Post Brenhinol, a oedd yn darlunio nofio, seiclo a thrac, cyn y Gemau.[2] Amharwyd ei pherfformiadau yn 2004 a 2005 gan anafiad i'w chefn.[3]
Roedd Anneliese yn aelod o dîm triathlon Cymru unwaith eto yng Ngemau'r Gymanwlad 2006, yn Melbourne, Awstralia, gorffennodd yn 11fed safle y tro hwn. Trodd ei chefn ar gamp y triathlon i ganolbwyntio ar seiclo yn 2007, gan reidio ar yr un tîm a Nicole Cooke, tîm Univega Raleigh Lifeforce Pro Cycling Team yn y Swistir.[4]
Mae Heard yn un o nifer o athletwyr sy'n gweithio gyda cynllun "Super Schools" er mwyn ysbrydoli plant i gymryd rhan mewn chwaraeon.[1] Mae hi'n hyfforddwraig cymwys, a caiff ei chyflogi gan Welsh Cycling fel cydlynydd hyfforddwyr ar y hyn o bryd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Anneliese Heard (Triathlon). Super Schools.
- ↑ Anneliese gives her stamp of approval. South Wales Argus (16 Gorffennaf 2002).
- ↑ Biography : HEARD Anneliese. Melbourne 2006.
- ↑ HEARD Anneliese. Cycling Quotient.