Annette Bryn Parri
Cyfeilyddes a pherfformwraig yw Annettte Bryn Parri. Ganed yn Neiniolen, Gwynedd, ble mae’n dal i fyw. Wedi iddi astudio’r piano gyda Rhiannon Gabrielson o Benmaenmawr aeth ymlaen i astudio gyda Marjorie Clement yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, lle graddiodd yn 1984. Wrth gyfeilio ym Manceinion, roedd Annette yn arbenigo mewn Lieder, oratorio a’r opera, ond roedd ei diddordeb mwyaf yng nghyfansoddwyr y cyfnod Rhamantaidd.
Annette Bryn Parri | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfeilydd |
Cyflogwr |
Yn bymtheng mlwydd oed, roedd Annette yn gyfeilydd swyddogol. Yn 1982 enillodd wobr Grace Williams am gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli. Yn 1983, cafodd ei gweld am y tro cyntaf ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni. Enillodd y Rhuban Glas offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl yn 1985. Yn 1984 ymunodd a’r Adran Gerdd ym Mhrifysgol Cymru Bangor, ac ers 1984, mae Annette wedi bod yn diwtor piano i fyfyrwyr cerddoriaeth sy’n dilyn cyrsiau B.A. a B.Cerdd ac mae’n cyfeilio i fyfyrwyr yn eu harholiadau perfformio.
Mae'n cyfeilio i nifer o brif artistiaid Cymru fel Bryn Terfel ac Aled Jones, Eirian James, Gwyn Hughes-Jones, Leah Marian Jones a Rebecca Evans. Mae wedi cyfrannu i nifer o gynyrchiadau teledu fel Noson Lawen, Cân i Gymru. Meistroli, a llawer mwy. Mae ei chyfansoddiadau yn cynnwys ei threfniant o ganeuon Andrew Lloyd Webber, caneuon Cymreig a melodïau amrywiol, cerddoriaeth i ffilm a cherddoriaeth ysgafn.
Mae wedi gwneud ymddangosiadau mewn cyngherddau, fel perfformwraig ac fel cyfeilyddes trwy Gymru a Lloegr, yn ogystal ag yn yr Almaen, Llydaw, yr Eidal, Nigeria, Awstralia a Hong Cong - ac ar fwrdd y QE2. Mae wedi cyfeilio yn Neuadd Albert, Llundain ar sawl achlysur, a bu Syr Andrew Lloyd Webber, Syr George Solti, y Tywysog Charles a’r diweddar Dywysoges Diana ymhlith ei chynulleidfaoedd preifat.
Disgograffeg
golyguDyma restr o ganeuon gan Annette Bryn Parri. Nid yw'r rhestr yn orffenedig, ac mae'r ffeiliau yn dameidiau i aros pryd, sef y 30 eiliad cyntaf o'r traciau a recordiwyd ar label/i Cwmni Recordiau Sain.[1]
Teitl y gân | Clip sain | Blwyddyn cyhoeddi | Rhif Catalog |
---|---|---|---|
Bugeilio'r Gwenith Gwyn | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
El Cumbanchero | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Hwiangerdd a Breuddwydion | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Il Spirto Gentil | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
La Vergine | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Le Coucou | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Moonlight Sonata | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Oh Holy Night | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Prelude yn C Leiaf | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Rhapsody in Blue | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Romance de Amor | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Tarantelle | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Toccata yn D Leiaf | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Un Mondo a Parte | 2005 | SAIN SCD 2368 | |
Moonlight Sonata | 2009 | SAIN SCD 2558 |
Llyfryddiaeth
golygu- Bywyd ar Ddu a Gwyn - Hunangofiant Annette Bryn Parri (Y Lolfa, 2010)
- Caneuon Carys Ofalus (Curiad, 2008)
Gweler hefyd
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ sainwales.com; adalwyd 29 Awst 2017.