Annie Foulkes
Llenor Cymreig a golygydd blodeugerdd oedd Annie Foulkes (1877 – 12 Tachwedd 1962). Fe'i ganed yn Llanberis, Gwynedd yn ferch i Edward Foulkes (1850 - 1917) a weithiau fel swyddog yn Chwarel Dinorwig. Roedd o deulu diwylliedig iawn gyda'i thad yn awdur nifer o ysgrifau ar lenorion Saesneg, yn enwedig mewn cyfnodolion Cymraeg; sgwennodd R. Williams Parry soned iddo wedi iddo farw.
Annie Foulkes | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1877 ![]() Llanberis ![]() |
Bu farw | 12 Tachwedd 1962 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | golygydd ![]() |
Tad | Edward Foulkes ![]() |
Addysgwyd Annie yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau ac yna yn y Collège de Jeunes Filles yn Saumur, Ffrainc rhwng 1896-97.
Trodd ei golygon tu'r Iwerddon, lle dysgai Ffrangeg mewn ysgol yn Bray, Swydd Wicklow yn 1897 ac yn Nhregaron rhwng 1898 a 1905, cyn symud eto i'r Barri yn 1905 hyd at 1918. Yna, fe'i penodwyd hi'n Ysgrifennydd Gweithredol Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru gan olynu Robert Silyn Roberts. Bu'n aelod o griw'r Welsh Outlook yn y Barri, gyda Silyn a Thomas Jones yn eu harwain mewn trafodaethau ar lenyddiaeth. Yn dilyn anogaeth y grŵp golygodd gyfrol o farddoniaeth Gymraeg a ymddangosodd yn 1918: Telyn y Dydd (yn y gyfres Cyfres yr Enfys, a bu'n boblogaidd iawn mewn ysgolion. Cymaint felly, fel y bu'n rhaid cyhoeddi'r bedwaredd argraffiad yn 1929.
Bu farw'n wraig weddw yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1962 yn 85 oed.
LlyfryddiaethGolygu
- Papurau Annie Foulkes a'i thad yn Llyfrgell Coleg Bangor (llawysgrau Bangor 16040-16410, 16590-16668)
- Carnarvon and Denbigh Herald, 1832 ff, 16 a 23 Tach. 1962