Antonio Larreta

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned ym Montevideo yn 1922

Dramodydd a nofelydd yn yr iaith Sbaeneg, cyfarwyddwr theatr, ac actor o Wrwgwái oedd Antonio "Taco" Larreta (14 Rhagfyr 192219 Awst 2015).

Antonio Larreta
GanwydGualberto José Antonio Rodríguez Larreta Ferreira Edit this on Wikidata
14 Rhagfyr 1922 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 2015 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái, Sbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, sgriptiwr, dramodydd, llenor, cyfieithydd, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, actor llwyfan, cyfarwyddwr ffilm, adolygydd theatr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCurro Jiménez Edit this on Wikidata
Gwobr/auPremio Planeta de Novela, Alas Award, Iris Award, Gwobrau Goya, Premio Bartolomé Hidalgo, Larra Award Edit this on Wikidata

Ganwyd Gualberto José Antonio Rodríguez Larreta ym Montevideo.[1] Dechreuodd ar ei yrfa yn y theatr fel actor amatur a beirniad. Cyd-sefydlodd y Club de Teatro, a oedd yn perfformio dramâu clasurol. Bu'n teithio a gweithio yn Sbaen, Ffrainc, a'r Eidal, gan gynnwys cyfnod dan hyfforddiant Giorgio Strehler, cyfarwyddwr y Piccolo Teatro ym Milan, yn 1955.[2]

Sefydlodd y Teatro de la Ciudad de Montevideo (TCM) yn 1960, a gyflwynasai nifer o ddramâu o wledydd eraill i Wrwgwái, nifer ohonynt wedi eu cyfieithu, eu haddasu, a'u cyfarwyddo gan Larreta. Un o'i lwyfaniadau nodedig oedd Fuenteovejuna gan Lope de Vega.[3] Aeth gyda'i theatr i Sbaen am dymor ac yno enillodd y Premio Larra am berfformiad o ddrama arall gan Lope de Vega, Porfiar hasta morir.[1] Enillodd Larreta wobr Casa de las Américas yn 1972 am ei ddrama Juan Palmieri, ond cafodd y gwaith hwnnw ei sensora gan yr unbennaeth sifil-filwrol a reolodd Wrwgwái yn y cyfnod 1973–85. Llwyddwyd i berfformio'r ddrama honno yn Buenos Aires, yr Ariannin, yn 1973.[3]

Aeth i Sbaen yn alltud, ac yno ysgrifennodd sgriptiau ar gyfer y gyfres deledu Curro Jimenez (1976–79). Enillodd Wobr Planeta am ei nofel Volavérunt (1980), sy'n seiliedig ar fywyd yr arlunydd Francisco de Goya. Sgriptiodd a chyfarwyddodd Larreta y ffilm Archentaidd Nunca estuve en Viena (1989), a chyd-ysgrifennodd y sgript, yn seiliedig ar nofel gan Arturo Pérez-Reverte, ar gyfer y ffilm El maestro de esgrima (1992). Enillodd Larreta a'i gyd-sgriptwyr, Francisco Prada a Pedro Olea, y Wobr Goya am y Sgript Addasedig Orau am y ffilm honno. Ymhlith sgriptiau eraill Larreta ar gyfer ffilmiau Sbaenaidd mae Los santos inocentes (1984), La casa de Bernarda Alba (1987), a Las cosas del querer (1989).[2]

Dychwelodd i'w famwlad yn sgil cwymp yr unbennaeth, a bu hefyd yn teithio'n ôl i Sbaen yn aml. Sefydlodd y Teatro del Sur ym Montevideo.[3] Bu farw ym Montevideo yn 92 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Sbaeneg) "Muere Antonio Larreta, autor de 'Volavérunt' y creador de la serie Curro Jiménez", El Mundo (20 Awst 2015). Adalwyd ar 2 Mehefin 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Uruguayan writer Antonio “Taco” Larreta dies", The San Diego Union-Tribune (20 Awst 2015). Adalwyd ar 2 Mehefin 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 Marina Pianca, "Larreta, Antonio" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 299.