Ysgolhaig a gwleidydd Eidalaidd a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Antonio Loschi (tua 13681441).

Antonio Loschi
Ganwyd1368 Edit this on Wikidata
Vicenza Edit this on Wikidata
Bu farw1441 Edit this on Wikidata
Vicenza Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, bardd, dyneiddiwr y Dadeni, ieithegydd, athronydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Ganed yn Vicenza ac astudiodd y gyfraith yn Padova. Loschi oedd un o'r cylch o ddyneiddwyr ifainc i dderbyn nawddogaeth Coluccio Salutati, Canghellor Gweriniaeth Fflorens.

Gwasanaethodd yn ganghellor i Gian Galeazzo Visconti, Dug Milan, o 1398 i 1402, yn ystod cyfnod o ryfel rhwng Milan a Fflorens. Tua 1397–98, ysgrifennodd draethodyn gwleidyddol o'r enw Invectiva in Florentinos yn lladd ar wŷr Fflorens am iddynt honni eu bod yn brwydro yn erbyn gormesdeyrn. Dadleuai Loschi bod brenhiniaeth yn drefn ragorach o gadw'r heddwch a diogelu'r bobl na gweriniaeth, a byddai uno tiroedd gogledd yr Eidal dan lywodraeth Tŷ Visconti yn gwarchod yr holl wlad rhag goresgyniadau milwrol. Derbyniodd ymatebion gan ei hen noddwr, Salutati (Invectiva contra Antonium Luschum; 1403), a sawl dyneiddiwr arall yn Fflorens.[1]

Bu Loschi yng ngwasanaeth Dugiaeth Milan hyd at 1404. Dechreuodd weithio i Lys y Pab yn Rhufain ym 1409 ac aeth i Gyngor Eglwysig Konstanz (1414–18). Yn ogystal â'i lythyrau a'i draethodau ymosodol yn yr iaith Ladin, ysgrifennodd Loschi esboniadau o 11 o areithiau Cicero.

Cyfeiriadau golygu

  1. Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 245.