Dugiaeth yng ngogledd yr Eidal ac un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Dugiaeth Milan. Sefydlwyd ym 1395 gan Gian Galeazzo Visconti, Arglwydd Milan, a dderbyniodd dystysgrif ymerodrol oddi ar Wenceslaus, Brenin y Rhufeiniaid.[1] Roedd ei diriogaeth pryd hynny yn cwmpasu 26 o drefi a chefn gwlad Gwastatir Padana i ddwyrain bryniau Monferrato. Am y rhan fwyaf o'i hoes, roedd Dugiaeth Milan yn ffinio â Safwy i'r gorllewin, Gweriniaeth Fenis i'r dwyrain, Cydffederasiwn y Swistir i'r gogledd, a Gweriniaeth Genoa i'r de.

Dugiaeth Milan
Eidaleg: Ducato di Milano
Lladin: Ducatus Mediolani
Tiriogaeth wrogaethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig
(1395–1499; 1512–1515; 1521–1540)
Tiriogaeth goron Teyrnas Ffrainc
(1499–1512; 1515–1521)
Talaith yr Ymerodraeth Lân Rufeinig dan reolaeth Hapsbwrgiaid Sbaen
(1556–1707)
Tiriogaeth goron y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd
(1707–1795)

 

1395–1447
1450–1796

 

 

Uwch: y faner wladol (Vexillum publicum) (1395–1797)
Is: lluman sifil y ddugiaeth (Vexillum civitas) yn ystod y cyfnod Sforza
(1329–1395; 1402–1499)
Arfbais Tŷ Sforza
Dugiaeth Milan ym 1494.
Prifddinas Milan
Ieithoedd Lombardeg, Eidaleg
Crefydd Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
Political structure Tiriogaeth wrogaethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig
(1395–1499; 1512–1515; 1521–1540)
Tiriogaeth goron Teyrnas Ffrainc
(1499–1512; 1515–1521)
Talaith yr Ymerodraeth Lân Rufeinig dan reolaeth Hapsbwrgiaid Sbaen
(1556–1707)
Tiriogaeth goron y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd
(1707–1795)
Dug
 -  1395–1402 Gian Galeazzo Visconti (cyntaf)
 -  1792–1796 Ffansis II (olaf)
Cyfnod hanesyddol Yr Oesoedd Canol Diweddar, Y cyfnod modern cynnar
 -  Tystysgrif ymerodrol oddi ar Wenceslaus, Brenin y Rhufeiniaid 1 Mai 1395
 -  Y Weriniaeth Ambrosaidd 1447–1450
 -  Meddiannwyd gan Ffrainc 1499–1512, 1515–1522 and 1524–1525
 -  Dan reolaeth Tŷ Hapsbwrg 1535–1796
 -  Dan reolaeth Sbaen 1556-1700
 -  Cyfeddiannwyd gan y Weriniaeth Drawsbadanaidd 15 Tachwedd 1796
Arian cyfred Sgwdo Milan, lira a soldo
Heddiw'n rhan o Yr Eidal Yr Eidal
Y Swistir Y Swistir

Bu'r ddugiaeth dan reolaeth Tŷ Visconiti nes 1447, pryd sefydlwyd y Weriniaeth Ambrosaidd wedi i'r Dug Filippo Maria Visconti farw heb etifedd. Gorchfygwyd Milan ym 1450 gan Francesco Sforza, a ddatganodd ei hun yn Ddug Milan. Goresgynnwyd y ddugiaeth ym 1499 gan luoedd Teyrnas Ffrainc i hawlio'r diriogaeth yn enw'r Brenin Louis XII. Adferwyd Tŷ Sforza yn Nugiaeth Milan gyda chymorth y Swisiaid ym 1512, ac eto ym 1521 gan Hapsbwrgiaid Awstria. Rhoddwyd y ddugiaeth i Felipe II, brenin Sbaen, ym 1556, gan ei dad Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a bu dan reolaeth Hapsbwrgiaid Sbaen am 150 mlynedd bron.

Goresgynnwyd y ddugiaeth gan luoedd Awstria ym 1701 ar ddechrau Rhyfel Olyniaeth Sbaen, a rhoddwyd i'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd yn swyddogol yn ôl Cytundeb Milan (1707). Bu dan reolaeth Awstria nes ymgyrch Napoleon Bonaparte yno ym 1796, ac yn sgil Cytundeb Campo Formio (1797) diddymwyd y ddugiaeth a throsglwyddwyd ei thiriogaeth i Weriniaeth Is yr Alpau, un o chwaer-weriniaethau Ffrainc. Yn sgil cwymp Napoleon a Chynhadledd Fienna (1815), daeth y gyn-ddugiaeth yn rhan o Deyrnas Lombardia a Veneto ac felly yn rhan o Ymerodraeth Awstria.

CyfeiriadauGolygu

  1. Jane Black, Absolutism in Renaissance Milan. Plenitude of power under the Visconti and the Sforza 1329–1535 (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), tt. 68–72.