Coluccio Salutati
Ysgolhaig a gwleidydd o'r Eidal a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Coluccio Salutati (16 Chwefror 1331 – 4 Mai 1406) a fu'n Ganghellor Gweriniaeth Fflorens o 1375 hyd at ei farwolaeth.
Coluccio Salutati | |
---|---|
Ganwyd | Lino Coluccio Salutati 16 Chwefror 1331 Stignano |
Bu farw | 4 Mai 1406 Fflorens |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, athronydd |
Mudiad | Dyneiddiaeth y Dadeni |
Bywgraffiad
golyguGaned Coluccio Salutati ar 16 Chwefror 1331 ym mhentref Stignano ger dinas Fflorens yn rhanbarth Toscana. Gweithiodd ei dad, un o garfan y Gelffiaid, yn alltud i'r arweinydd yn Bologna yn sgil un o fuddugoliaethau'r Gibeliaid, ac yno derbyniodd Coluccio rywfaint o addysg yn y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna cyn iddo benderfynu nad ganddo'r dymer i fod yn gyfreithiwr.[1] Yn sgil marwolaeth ei dad, bu'n rhaid iddo ddiystyru ei deimladau am fyd y gyfraith ac aeth yn brentis i notari o 1348 i 1350.[2] Wedi cwymp Tŷ Pepoli yn Bologna ym 1350, dychwelodd Coluccio i Stignano.[1]
Gweithiodd Salutati am gyfnod yn notari preifat ar gyrion Fflorens, ac enillodd brofiad o weinyddiaeth ddinesig. Fe'i penodwyd ym 1367 yn Ganghellor Todi, cymuned i ogledd Rhufain, am chwe mis. Wedi hynny, aeth i Rufain a chynorthwyodd un o ysgrifenyddion Llys y Pab, o bosib ei gyfaill Francesco Bruni, o 1368 i 1370. Ym 1370 fe'i penodwyd yn Ganghellor Gweriniaeth Lucca, a bu yn y swydd honno nes 1372.[3]
Symudodd i Fflorens ym 1374 i weithio yng ngweinyddiaeth y weriniaeth, yn oruchwyliwr etholiadol. Ym 1375 dewiswyd Salutati yn arweinydd y signorie (arglwyddi) ac felly yn Ganghellor Fflorens, a bu yn y swydd honno am weddill ei oes, 31 mlynedd. Defnyddiodd Salutati ddylanwad ei swydd i hyrwyddo dyneiddiaeth y Dadeni a rhodd ei nawddogaeth i ysgolheigion ifainc, yn eu plith Leonardo Bruni, Poggio Bracciolini, Pier Paolo Vergerio, ac Antonio Loschi. Manteisiodd ar ei ohebiaeth ddiplomyddol i gysylltu rhwydwaith o wŷr hyddysg ar draws yr Eidal i lythyru ar bynciau'r clasuron. Er na lwyddodd Salutati ei hun i feistroli'r iaith Roeg, fe bwysleisiodd yr angen i ddyneiddwyr astudio llenyddiaeth Hen Roeg yn ogystal â'r awduron Rhufeinig, a gwahoddodd yr ysgolhaig Manuel Chrysoloras i Fflorens ym 1396.[2]
Bu farw Coluccio Salutati yn Fflorens ar 4 Mai 1406 yn 75 oed.[1]
Ei ysgolheictod
golyguRhyw ddeng mlynedd cyn iddo ymsefydlu yn Fflorens, bu Salutati yn llythyru ag edmygwyr yr ysgolhaig a bardd Francesco Petrarca yn y ddinas honno, ac enillodd enw iddo'i hun fel dyneiddiwr a Lladinydd. Ffafriai Salutati arddull Lladin clasuredig yn ei ohebiaeth bersonol a'i weithiau llenyddol, a chadwodd at ffurf ganoloesol yr iaith yn ei ysgrifeniadau swyddogol.[2] Ysgrifennodd draethodau a llythyrau ar bynciau athronyddol a beirniadaeth lenyddol. Casglodd nifer o lawysgrifau Lladin hynafol a chanoloesol, a rhoddai nifer ohonynt i lyfrgell eglwysig San Marco yn Fflorens.[1]
Yn wahanol i nifer o ddyneiddwyr eraill y cyfnod, efelychai Salutati weriniaetholdeb aristocrataidd yn ôl Cicero a gwleidyddion Rhufeinig eraill yn ei lythyrau, gan bortreadu llywodraeth gyfansoddiadol Fflorens yn oleuedig o'i chymharu â Milan a dugiaethau eraill yr Eidal. Bu hefyd yn nodedig am iddo ymwneud â chwestiynau crefyddol, ar batrwm yr hen feirdd Petrarca a Dante Alighieri, tra yr oedd y mwyafrif o'i ddisgyblion yn anwybyddu diwinyddiaeth. Un o'r pynciau llosg a dynnodd ei sylw oedd y berthynas rhwng rhagarfaeth a rhyddid ewyllys. Yn ei waith De laboribus Herculis (1381–91), mae'n dehongli chwedlau hynafol Ercwlff yn ôl symbolaeth Gristnogol. Lleisiodd hefyd ei barch tuag at y Babaeth ym mywyd gwleidyddol yr oes a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig.[2] Mae ymwybyddiaeth Gatholig Salutati yn nodi gwahaniaeth rhwng oes foreol y Dadeni yn yr Eidal a dyneiddiaeth y 15g.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Coluccio Salutati. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 396–8.
- ↑ Ronald G. Witt, "Coluccio Salutati, Chancellor and Citizen of Lucca (1370–1372)", Traditio, cyfrol 25 (1969), tt. 191–216., doi:10.1017/S0362152900010965.