Antony Carr
Hanesydd o Gymru oedd Antony D. Carr (6 Chwefror 1938 – 30 Ebrill 2019).[1][2] Roedd yn arbenigo ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol.
Antony Carr | |
---|---|
Ganwyd | Antony David Carr 6 Chwefror 1938 Dover |
Bu farw | 30 Ebrill 2019 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, academydd |
Cyflogwr |
|
Priod | Glenda Carr |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr |
Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ynysoedd y Falklands ac ar ôl hynny ym Mauritius. Cafodd ei fagu ym Mhorthaethwy a mynychodd Ysgol Ramadeg Biwmares a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.[3] Graddiodd gyda gradd BA Hanes ym 1959. Ym 1963 cafodd ei radd MA am astudiaeth o uchelwyr Edeirnion rhwng 1282 a 1485. Enillodd PhD ym 1976 am ei draethawd ar deulu'r Mostyn a'u hystadau yng Ngogledd Cymru rhwng 1200 a 1642.
Pan oedd yn 18, enillodd Carr y rhaglen gwis radio'r BBC 'Brain of Britain' ym 1956, ac ef oedd enillydd ieuengaf erioed y gystadleuaeth hon. Yn 24 oed, aeth ymlaen i ennill teitl 'Top Brain of Britain', cystadleuaeth rhwng enillwyr yr ornest dros y blynyddoedd. Roedd yn gweithio mewn archifdy yn Essex ar y pryd.
Ym 1964 ymunodd â staff Adran Hanes a Hanes Cymru CPGC Bangor lle daeth yn uwch ddarlithydd Hanes Cymru yn nes ymlaen ac yna yn Athro Hanes Cymru'r Oesoedd Canol. Ymddeolodd yn 2002 a daeth yn Athro Emeritws yn Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Bangor.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod â'r hanesydd llên Glenda Carr ac roedd ganddynt ddau o blant, Richard a Gwenllïan.[4] Yn dilyn ei angladd roedd gwasanaeth cyhoeddus iddo yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar ddydd Sadwrn 11 Mai am 2 o'r gloch y prynhawn.
Llyfryddiaeth
golyguYn ogystal â nifer o erthyglau ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol mewn cylchgronau hanes, mae'n awdur :
- Llywelyn ap Gruffudd (Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi, Gwasg Prifysgol Cymru, 1982)
- Medieval Anglesey (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, Llangefni, 1982). Hanes safonol Ynys Môn yn yr Oesoedd Canol.
- Owen of Wales: The End of the House of Gwynedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991). Y llyfr safonol ar hanes bywyd Owain Lawgoch.
- Medieval Wales, Macmillan (1995)
- Gwilym ap Gruffydd and the rise of the Penrhyn estate, Cylchgrawn Hanes Cymru xv (1990), 1–27
- 'Wales' yn C.T. Allmand, gol., The New Cambridge Medieval History VII, c 1415-c. 1500, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 532–46 (1998)
- 'This my act and deed: the writing of private acts in late medieval north Wales' yn Huw Pryce, gol., Literacy in Medieval Celtic Societies, Gwasg Prifysgol Caergrawnt (1998)
- Medieval Anglesey (ail argraffiad), Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn (2011)
- The Gentry of North Wales in the Later Middle Ages, Gwasg Prifysgol Cymru (2017)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr academydd yr Athro Antony Carr wedi marw yn 81 oed , BBC Cymru Fyw, 1 Mai 2019.
- ↑ CARR - Antony David (Athro Emeritws Hanes Cymru). Daily Post (4 Mai 2019). Adalwyd ar 5 Mai 2019.
- ↑ Marw’r Athro Antony Carr – hanesydd a chyn ‘Brain of Britain’ , Golwg360, 1 Mai 2019. Cyrchwyd ar 5 Mai 2019.
- ↑ Pryce, Huw (2020-06-01). "Obituary: Antony David ('Tony') Carr, 1938–2019" (yn en). The Welsh History Review / Cylchgrawn Hanes Cymru 30 (1): 121–125. doi:10.16922/whr.30.1.7. ISSN 0083-792X. https://www.ingentaconnect.com/content/10.16922/whr.30.1.7.