Y Cynghrair Arabaidd
Sefydlwyd y Cynghrair Arabaidd (Arabeg: الجامعة العربية al-Jāmiʻa al-ʻArabiyya), a elwir Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd (Arabic: جامعة الدول العربية Jāmiʻat ad-Duwal al-ʻArabiyya) yn swyddogol, er mwyn hyrwyddo undod a chydweithrediad rhwng y gwledydd Arabaidd. Fe'i sefydlwyd ar 7 Mawrth, 1945, gan saith o wledydd Arabaidd, sef Yr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria ac Iemen. Ar hyn o bryd ceir 22 aelod. Prif nod y cynghrair yw creu perthynas agosach rhwng yr aelod-wladwriaethau a threfnu cydweithrediad rhyngddynt, amddiffyn eu hannibyniaeth a'u sofraniaeth, a thrafod mewn modd gyffredinol buddianau'r gwledydd Arabaidd a materion sy'n ymwneud â hwy.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhanbarthol, uno gwleidyddol, sefydliad rhyngwladol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 22 Mawrth 1945 |
Yn cynnwys | Libanus |
Pennaeth y sefydliad | Secretary General of the Arab League |
Sylfaenydd | Yr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria, Iemen |
Isgwmni/au | Arab Monetary Fund, Arab Air Carriers Organization, Arab League Educational, Cultural and Scientific Organization, Arab Parliament |
Pencadlys | Headquarters of the Arab League |
Enw brodorol | الجامعة العربية |
Gwefan | http://www.leagueofarabstates.net/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleolir ei bencadlys yn ninas Cairo yn yr Aifft. Mae tua 316 miliwn o bobl yn byw yng ngwledydd y Cynghrair, ar diriogaeth sy'n ymestyn o'r Maghreb yn y gorllewin i'r ffin rhwng Irac ac Iran a de-ddwyrain gorynys Arabia yn y dwyrain. Mae'r mwyafrif yn Arabiaid ond ceir lleiafrifoedd fel y Berberiaid hefyd. Mae canran sylweddol o'r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd a threfi. Y dinasoedd mwyaf yw Baghdad, Khartoum, Damascus, Riyadh, Alexandria a Casablanca.
Aelodau
golyguAelodau presennol y Cynghair yw (ynghyd â'u dyddiad aelodaeth):
Yr Aifft | 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) |
Irac | 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) |
Gwlad Iorddonen | 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) |
Libanus | 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) |
Sawdi Arabia | 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) |
Syria | 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd) |
Iemen | 5 Mai, 1945 (Sefydlydd) |
Libia | 28 Mawrth, 1953 |
Swdan | 19 Ionawr, 1956 |
Moroco | 1 Hydref, 1958 |
Tiwnisia | 1 Hydref, 1958 |
Coweit | 20 Gorffennaf, 1961 |
Algeria | 16 Awst, 1962 |
Emiradau Arabaidd Unedig | 12 Mehefin, 1971 |
Bahrein | 11 Medi, 1971 |
Qatar | 11 Medi, 1971 |
Oman | 29 Medi, 1971 |
Mawritania | 26 Tachwedd, 1973 |
Somalia | 14 Chwefror, 1974 |
Palesteina | Gwladwriaeth Palesteina 15 Tachwedd, 1988, yn olynnu'r PLO (o 9 Medi, 1976) |
Jibwti | 9 Ebrill, 1977 |
Comoros | 20 Tachwedd, 1993 |
Ysgrifenyddion Cyffredinol
golyguYr Aifft | Abdul Rahman Azzam | 1945 hyd 1952 |
Yr Aifft | Abdul Khalek Hassouna | 1952 hyd 1972 |
Yr Aifft | Mahmoud Riad | 1972 hyd 1979 |
Tiwnisia | Chedli Klibi | 1979 hyd 1990 |
Libanus | Assad al-Assad | 1990 hyd 1991 |
Yr Aifft | Ahmad Esmat Abd al Meguid | 1991 hyd 2001 |
Yr Aifft | Amr Moussa | 2001 hyd heddiw |
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- (Arabeg) (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2011-01-10 yn y Peiriant Wayback