Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 1,027:
 
:Mae'r wybodlen mewn tair rhan, fel y gweli: mae'r rhan gynta'r cymryd llif o Wicidata - llun a map os yw'n bresenol. Mae'r rhan oddi tano'n, ar erthyglau am rywogaethau'n cynnwys manylion llyfr coch IUCN, ac mae hwn hefyd yn otomatig. Ar erthygl am genws, yna mae'n rhaid ei ddileu. Y rhan olaf yw'r tacson, ac mae'n rhaid rhoi'r manylion yma (ar hyn o bryd) gyda llaw a llygad. Ond mae'r darn olaf o'r tacson yn otomatig! Felly ponsh maip go iawn! Ond mae'n gweithio, ac mi ddei di fewn iddi yn reit sydyn! Ond os cei drafferth yna plis gad neges ar fy nhudalen Sgwrs, neu yma. Mi fyddaf i ffwrdd am y ddau fis nesa, ond mi dria i gadw llygad ar betha, os medraf. Pob hwwyl! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 15:50, 24 Ebrill 2020 (UTC)
 
== Cerddi ar drwydded agored ==
 
Dwn i ddim am eu gwerth, os oes gwerth o gwbwl, ond dw i wedi cychwyn rhoi [https://cy.wikisource.org/wiki/Categori:Robin_Llwyd_ab_Owain fy ngherddi ar drwydded agored Wicidestun yn fama]. Fel arfer, hen gyfrolau sy'n mynd ar ein chwaer brosiect, cyfrolau lle mae eu hawlfraint wedi dod i ben. Ond teimlaf fod rhannu'n agored fel hyn yn dod a rhywfaint o ffresni i'r llwyfan llychlyd yma! Byddai'n wych pe bai mwy o destunau'n cael eu hychwanegu: pamffledi gwleidyddol, llyfrynau bychan, llyfrau allan o brint, neu weithiau newydd fel e-lyfrau academaidd y Porth. Mae na waith ar y categoriau hefyd, os oes gan rywun chydig o amser yn sbar. Mae'n bosib y byddaf i ffwrdd am gyfnod reit hir, ac os na fyddaf wedi gorffen copio'r cerddi cyn mynd, mae can croeso i rywun wneud hynny. A phob un am ddim i bawb! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 10:25, 27 Ebrill 2020 (UTC)