Cwmtydu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
cyfeiriadaeth
arwydd / sillafiad
Llinell 8:
 
[[Pentref]] a bae bychan yn ne [[Ceredigion]] yw '''Cwmtydi''', sy'n gorwedd ar lan y môr rhai milltiroedd i'r de o dref fechan [[Ceinewydd]] ac sy'n rhan o gymuned [[Llandysiliogogo]]. Yma mae aber [[Afon Ffynnon Ddewi]]. Ceir hen odyn galch i lawr wrth y traeth.
[[Delwedd:Arwydd Cwmtydu roadsign - Ceredigion, Wales.jpg|bawd|chwith|Arwydd ffordd]]
 
Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys [[Llwyndafydd]], Caerwedros a [[Nanternis]]. Mae un o'r ddwy ffordd i lawr i'r bae yn mynd drwy Lwyndafydd lle saif hen blasty Neuadd Llwyn Dafydd. Yno, ar 10 Awst 1485, ar ei ffordd i [[Maes Bosworth|Faes Bosworth]], cododd [[Harri Tudur]] wersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn Llwyndafydd.<ref>[https://books.google.co.uk/books?id=gHwDyqgy_0wC&dq=neuadd+llwyn+dafydd&ots=y5Mbd68yUy&q=Llwyn+Dafydd#v=snippet&q=Llwyn%20Dafydd&f=false google.co.uk;] Gweler: ''Bosworth: The Birth of the Tudors'' gan Chris Skidmore. sillefir Llwyndafydd yma fel 'Llwyn Dafydd'. Adalwyd 6 Awst 2020.</ref> Mae Cwm Tudu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o [[Aberteifi]] i [[Aberystwyth]], felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau (o Ffrainc neu Lydaw) yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap ieuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi. Mae'n bosib mai'r enw 'Tudur' yw tarddiad enw'r pentref.