David Hughes (Eos Iâl): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
disgrifiad o'r Eos allan o O Ferwyn i Fynyllod
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
[[Bardd]] a [[cyhoeddwr|chyhoeddwr]] o [[Edeyrnion]] oedd '''David Hughes''' a ddefnyddiai'r enw barddol '''Eos Iâl''' (1794? - [[2 Mawrth]] [[1862]])<ref>Ceir dyddiad ei farwolaeth ym ''Mlodau'r Gân'' (1862) gan Hugh Derfel Hughes.</ref>. Mae'n adnabyddus fel awdur y garol plygain [[Ar Gyfer Heddiw'r Bore]].<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.</ref>
 
==Y person==
Fe'i ganed ym "Mrynllwynog", [[Bryneglwys]] ger [[Corwen]], Sir Ddinbych a bu'n byw yng [[Cynwyd|Nghynwyd]], ym mhlwyf Llangar, ychydig filltiroedd i ffwrdd o 1824 hyd 1831. Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda merch o Gynwyd a gladdwyd yn [[Eglwys Llangar]]. Cafodd wyth o blant: "Wyth o blant eitha blin" canodd unwaith mewn cywydd. Yn ei ieuenctid, bu'n hoff iawn o'r ddiod, ond daeth dan ddylanwad y diwygiad dirwestol a chyn hir roedd yn un o'u harweinwyr ac roedd yn aelod selog o'r ''Oddfellows''. Bu'n aelod yng nghapel y Bedyddwyr yng Nghynwyd ac yna yng nghapel y Bedyddwyr yn 'Llansanffraid' ([[Carog]] heddiw), lle'i claddwyd. Bu'n byw yn "Nhŷ yr Ardd", Pentre - sef pentrefan rhwng Bryneglwys a Charog. Bu farw'n 67 oed.
 
Yn ôl Janes Mary Jones o o'r "Hendre", Cynwyd, roedd yn ŵr lled dal, o bryd tywyll a golwg penderfynol arno. Cododd dŷ iddo'i hun a galwodd ef yn "Llety'r Siswrn", gan mai ei waith oedd [[crudd]]. Dyfeisiodd beiriant argraffu. Symudodd o Gynwyd i Morfydd, rhan o ardal Carrog.<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 115-6.</ref>
 
Bu'n byw yn "Nhŷ yr Ardd", Pentre - sef pentrefan rhwng Bryneglwys a Charog a bu'n aelod yng nghapel y Bedyddwyr yng Nghynwyd ac yna yng Nghapel y Bedyddwyr, 'Llansanffraid' ([[Carrog]] heddiw), lle'i claddwyd. Bu farw'n 67 oed.
 
==Bardd==