Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 44:
 
===Rhai patrymau treiglo===
Gallai'r newidiadau yn y seiniau effeithio ar seiniau mewn cyfuniadau o eiriau yn ogystal ag o fewn un gair. E.e. byddai '''m''' yn troi'n '''f''' pan fyddai'r ddwy lafariad '''a''' o'i amgylch: '''abŏna māra''' → '''afona fāra''' → '''afon fawr'''. Gan fod llawer o enwau benywaidd yn y Frythoneg yn terfynu gyda'r llafariad '''a''' dyma ddechrau ffurfio patrwm o [[treiglo|dreiglo]] cytsain flaen yr ansoddair dilynol. Parhaodd y treiglad wedi i'r geiriau golli'r llafariad derfynol. Gyda threigl amser cymhwyswyd y patrwm i'r holl ansoddeiriau a ddilynent enwau benywaidd (proses o gydweddiad) gan ffurfio 'rheol' bod ansoddair yn treiglo'n feddal ar ôl enw benywaidd.
 
Terfynai ffurf enwol enw yn y rhif deuol yn y Frythoneg mewn llafariad. Megis gyda'r ansoddeiriau yn dilyn enwau benywaidd ffurfiwyd treiglad meddal mewn ansoddair yn dilyn enw deuol. Dyma wraidd y patrwm Cymraeg o dreiglo enw wedi'r rhif dau neu dwy.
 
 
==Ffynonellau a throednodion==