Maentwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dol
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - Link equal to linktext (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 7:
Mae tystiolaeth am goed yn cael ei allforio o 1739, ond daeth Maentwrog yn bwysig gyda thŵf y diwydiant llechi o'r 1760au ymlaen. Hyd nes adeiladwyd [[Rheilffordd Ffestiniog]] yr oedd y llechi'n cael eu cario yma a'u llwytho i gychod oedd yn mynd a hwy i lawr yr afon i'w llwytho i longau. Tyfodd Maentwrog yn gyflym yn y [[19eg ganrif]]. Gerllaw'r pentref mae Plas Tan y Bwlch, unwaith yn gartref y teulu Oakley a fu'n flaenllaw yn natblygiad y diwydiant llechi yn ardal [[Blaenau Ffestiniog]]. Teulu Oakley oedd yn gyfrifol am ddatblygu a chynllunio'r penref. Mae'r plas yn awr yn Ganolfan Astudio yn perthyn i [[Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri]]. Mae gorsaf Tan-y-Bwlch ar [[Reilffordd Ffestiniog]] gerllaw hefyd. Mae dwy dafarn yma, ''The Grapes'' o'r [[17eg ganrif]] yn y pentref a'r ''Oakley Arms'' ger Plas Tan y Bwlch.
 
Agorwyd gorsaf drydan Maentwrog yn [[1928]], ac mae'n parhau i gynhyrchu trydan, gan ddefnyddio dŵr o [[Llyn Trawsfynydd|Llyn Trawsfynydd]].