Chicago: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
iaith
Llinell 32:
 
Erbyn diwedd y 19fed ganrif, roedd prisiau tir wedi cynnyddu'n sylweddol, yn arwain at adeiladau talach. Adeiladwyd [[nendwr]] cynta'r byd gan William Le Baron Jenney ym 1885: y ''Home Insurance Building''. Roedd yn 55 medr o daldra ac yn cynnwys 9 llawr.<ref>[http://www.aviewoncities.com/chicago/chicagohistory.htm Gwefan 'a view on cities']</ref>
 
==Trafnidiaeth==
 
==Meysydd Awyr==
 
Mae [[Maes Awyr Rhyngwladol O'Hare]] yn un o'r brysurach yn y byd, gwasanaethir gan ANA, Lufthansa, Skywest, Turkish, United, Air Canada, Air Canada Jazz, Delta, US Airways, Air Choice One, Alaskan, American, American Eagle, Iberia, Japan, Jetblue, Spirit, Virgin America, Westjet, Aer Lingus, Aeromexico, Air France, Air India, Alitalia, American, ANA, Asiana, BA, Cayman, COPA, Etihad, KLM, Korean, LOT, Mexicana, Royal Jordanian, SAS, Swiss International, TACA, USA 3000, Virgin Atlantic.<ref>[http://www.ifly.com/chicago-ohare-international-airport/airlines-served]</ref>
 
Gwasanaethir [[Maes Awyr Rhyngwladol Midway]] gan gymnïau hedfan dilynol: Airtran, Delta, Frontier, Porter, Southwest a Volaris.<ref>[http://www.ifly.com/chicago-midway-international-airport/airlines-served]</ref>
 
==Trenau==
[[Delwedd:Gorsaf Union Chicago01.jpg|bawd|260px|Trenau Amtrak yng Ngorsaf Union]]
===Amtrak===
Mae trenau [[Amtrak]] yn cyrraedd [[Gorsaf Reilffordd Union, Chicago|Gorsaf Reilffordd Union]].
 
===Metra===
[[Delwedd:LaSalle01.jpg|bawd|260px|Trenau Metra yng Ngorsaf Stryd LaSalle]]
Mae trenau [[Metra]]'n dod o gyrion y ddinas ac o gylchdrefi yn [[Illinois]], [[Indiana]] a [[Wisconsin]], ac yn cyrraedd Gorsaf Reilffordd Union, [[Canolfan Trafnidiaeth Ogilvie, Chicago|Canolfan Trafnidiaeth Ogilvie]], [[Gorsaf Reilffordd Stryd LaSalle, Chicago|Gorsaf Reilffordd Stryd LaSalle]] a [[Gorsaf Reilffordd y Mileniwm, Chicago|Gorsaf Reilffordd y Mileniwm]].
 
==Chicago Transit Authority (CTA)==
[[Delwedd:El01.jpg|bawd|260px|Trên CTA yn Chicago]]
[[File:Chicago L Map.svg|275px]]
Mae gan y CTA rwydwaith helaeth o fysiau a threnau ac mae'r gwasanaeth yn rhad ac yn fynych iawn. Cyfeirir at y rheilffyrdd fel yr ''L'', talfyriad o'r gair Saesneg ''Elevated'', yn cyfeirio at rhan y rheilffordd ynghanol y ddinas, sydd yn sefyll uwchben y strydoedd. Mae trenau a bysiau'r CTA yn rhoi gwasanaeth dwys tu mewn i'r ddinas.
 
==Bysiau==
 
Mae Gorsaf Fws [[Bysiau Greyhound|Greyhound]] ar 630 Stryd Harrison Gorllewin, ac mae gan ''Greyhound'' safleoedd bws gerllaw gorsafoedd CTA 95 Stryd (Lein Goch) ac Avenue Cumberland (Lein Las). Mae rhai cwmnïau bws rhanbarthol yn defnyddio Gorsaf Reilffordd Union.
 
===Pace==
Mae bysiau ''Pace'' – fel trenau ''Metra'' - yn rhoi gwasanaeth i'r ardaloedd ar gyrion y ddinas.
 
==Cyfeiriadau==