Sgwrs:Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
"Dial"
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 14:
 
:::Diolch. Ar y dydd olaf o Fehefin fe drafododd Llywodraeth Israel a fyddent yn dial neu beidio. "Dial" yw'r union air! [http://www.bellinghamherald.com/2014/06/30/3726878/kidnapped-israeli-teens-found.html?sp=/99/101/235/#storylink=cpy - gweler yma]: ''The Israeli government debated possible retaliatory action for the killings of three Israeli teenagers whose bodies were found.'' a hefyd geiriau Benjamin Netanyahu ei hun: ''(Benjamin Netanyahu) had threatened the militant group Hamas with retaliation for the teens’ deaths. “Hamas is responsible and Hamas will pay,”'' Dial swyddogol yw hyn, fel mae eu crefydd a'u deddfwriaeth yn ei ganiatáu ac mae'n gwbwl gywir i ni roi ffeithiau fel hyn yn yr erthygl. Yn wir, mae peidio a chyhoeddi hyn yn gam mawr ar y darllenydd. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 05:55, 13 Gorffennaf 2014 (UTC)
 
Rydych chi wedi ategu pob gosodiad yn yr erthygl gyda thystiolaeth gadarn, dydw i ddim yn amau hynny; credaf i y dylid traethu'r wybodaeth hynny mewn ieithwedd fwy niwtral. Mae Israel yn wir yn manteisio ar bob 'cam' a wneir â hi gan y Palesteiniaid, sydd, ar y cyfan, ond yn amddiffyn eu hunain, neu yn mynegi eu gofid a'u dioddefaint yn yr unig ffordd sydd ar ôl iddynt; ac yn wir, mae cyfraith ryngwladol wedi cael ei sathru gan Wladwriaeth Israel. Ond, oni thraethir y wybodaeth, y ffeithiau hyn, mewn modd cwbl niwtral, fydd y wybodaeth honno'n colli rhywfaint o'i hing. Serch hynny, rwy'n hapus ag ansawdd ye erthygl; mae'n well nag unrhyw beth y byddwn i fedru'i gwneud! Chwarae'r devil's advocate ydw i fan hyn, yn sicrahu bod pob peth yn hollol dynn. [[Arbennig:Contributions/2.24.96.56|2.24.96.56]]
Nôl i'r dudalen "Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014".