Bryniau Clwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 2:
[[Delwedd:20090410 25.JPG|250px|bawd|dde|Bryniau Clwyd o [[Bwlchgwyn|Fwlchgwyn]] ger [[Wrecsam]].]]
[[Delwedd:Moel Arthur, Sir Ddinbych 04.JPG |250px|bawd|[[Moel Arthur]]]]
'''Bryniau Clwyd''' (neu '''Moelydd Clwyd'''; Saesneg: the ''Clwydian Range'') yw'r gadwyn o tua 21 o fryniau yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] sy'n ymestyn o gyffiniau [[Llandegla-yn-Iâl]] a [[Nant y Garth]] yn y de i gyffiniau [[Prestatyn]] yn y gogledd, gyda [[Moel Famau]] (554 metr) yr uchaf ohonynt. Er nad ydynt yn arbennig o uchel, ceir golygfeydd braf o'u copaon hyd at fynyddoedd [[Eryri]] i'r gorllewin a thros [[Sir y Fflint]] i wastadeddau [[Swydd Gaer]] a chyffiniau [[Lerpwl]] i'r dwyrain. Gorwedd y rhan fwyaf o'r gadwyn yn [[Sir Ddinbych]] ond mae'r ffin â Sir y Fflint yn rhedeg ar hyd y copaon. I'r gorllewin i'r moelydd, ac yn gyfochrog iddynt gorwedd [[Dyffryn Clwyd]]. Mae'r rhan helaethaf wedi'i glustnodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir yma dystiolaeth o wareiddiad bywiog a oedd yn ffynnu yn yr [[Oes Efydd]] ac yn [[Oes y Cerrig]], sydd yn ôl yr archeolegydd Ian Brown yn un o'r llefydd pwysicaf drwy orllewin Ewrop o dystiolaeth o fywyd dyn.<ref>''Discovering a Welsh Landscape'' gan Ian Brown; Cyhoeddwyd gan Windgather Press; 2004; ISBN 0-9545575-7-3; tudalen 5.</ref>
 
==Hanes==
I'r gorllewin yn yr Oesoedd Canol yr oedd [[Tywysogaeth Gwynedd]] a'r 'Mercia' [[Anglo-Saxons|Anglo Sacsonaidd]] gelwid yr ardal rhwng [[Afon Conwy]] ac [[Afon Ddyfrdwy]] [[Y Berfeddwlad]] sef "y tir canol".
 
==Y Moelydd==
Fe'u gelwir yn Fryniau Clwyd am eu bod yn codi ar hyd ymyl ddwyreiniol [[Dyffryn Clwyd]]. Ar hyd yr oesoedd mae'r bryniau hyn wedi bod yn llinell amddiffyn naturiol i ogleddOgledd Cymru. Mae'r gadwyn yn cynnwys nifer o [[bryngaer|fryngaerau]] o [[Oes yr Haearn]], e.e. [[Foel Fenlli]], [[Penycloddiau]] a [[Moel Arthur]]. Ceir nifer o [[carnedd|garneddi]] [[cynhanes]]yddol ar y copaon hefyd. Mae [[Llwybr Clawdd Offa]] yn nadreddu o fryn i fryn.
 
==Enwau'r bylchau==
Ceir nifer o [[bwlch|fylchau]] yn'n croesi Bryniau Clwyd, gan gynnwys bwlchAllt [[Rhuallt]] a groesir gan yr [[A55]], prif draffordd gogleddGogledd Cymru, a'r hen [[Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm|ffordd Rufeinig o Gaer i Segontiwm]] cyn hynny. Mae bylchau hanesyddol eraill yn cynnwys Bwlch Pen Barras, sy'n cael ei groesi gan yr hen ffordd fynydd rhwng [[Tafarn-y-Gelyn]] a [[Rhuthun]].
 
==Ardal o Harddwch Naturiol==
Heddiw mae bron y cyfan o'r bryniau yn [[Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol]]. Fe'i dynodwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ar 24 Gorffennaf 1985. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth genedlaethol i'r Bryniau fel ardal o dirwedd safon uchel. Mae'n un o 5 AHNE yng Nghymru. Mae'n ardal gyfoethog ei [[llên gwerin]], gan gynnwys traddodiadau am y brenin [[Arthur]].
 
 
===Copaon (o'r gogledd i'r de)===
#[[Bryn Coed yr Esgob]] (211m) {{gbmappingsmall|SJ068812}}
#[[Moel Hiraddug]] (265m) {{gbmappingsmall|SJ063785}}
Llinell 94 ⟶ 98:
 
==Gweler hefyd==
*[[Dyffryn Clwyd]]
*[[Clawdd Offa]]
*[[Llwybr Clawdd Offa]]
*[[Rhestr mynyddoedd Cymru]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{AHNEau Cymru}}