Hedd Wyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Ei fywyd a'i waith: B rwydr Cefn Pilkem
Llinell 47:
Barddonai o'i lencyndod a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i [[awdl]] "Dyffryn" yn 1907. Dilynwyd hyn wrth iddo ennill cadeiriau yn [[Llanuwchllyn]] yn 1913, [[Pwllheli]] yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a [[Pontardawe|Phontardawe]] yn 1915<ref name="Pamffled Hedd Wyn"/>. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac [[englyn]]ion i ddigwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd [[Ffestiniog]] ar 20 Awst, 1910.
 
Aeth yn [[milwr|filwr]] yn 15fed Bataliwn [[y Ffiwsilwyr Cymreig]] yn Ionawr [[1917]]. Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger [[Lerpwl]] ac aeth i [[Fflandrys]] erbyn yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd ger Cefn Pilkem lle bu [[Brwydr Passchendaele|brwydr Passchendaele]]. Fe'i lladdwyd ym [[Brwydr Cefn Pilkem|Mrwydr Cefn Pilkem,]] a oedd yn rhan o [[Brwydr Passchendaele|Frwydr Passchendaele]] a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres ([[Fflemeg]]: Ieper), ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn.
 
Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|gadair]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917]] am ei awdl "Yr Arwr". Bu Ellis yn gweithio ar yr awdl gan ei chwblhau erbyn tua chanol Gorffennaf 1917 pan oedd yntau yng Ngwlad Belg. Ar ddydd Iau, 6 Medi 1917, cyhoeddodd [[T. Gwynn Jones]] i'r dorf ym Mhafiliwn yr Eisteddfod mai bardd a oedd yn dwyn y ffugenw "Fleur-de-lis" oedd yn deilwng o ennill y gadair. Fodd bynnag roedd Ellis wedi cael ei ladd chwe wythnos ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddodd yr Archdderwydd Dyfed ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel "Eisteddfod y Gadair Ddu".