Coleg yr Iesu, Rhydychen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
run maint
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 53:
[[Image:Thelwall memorial.jpg|thumb|chwith|160px|Cofeb i Syr Eubule Thelwall, 1630, yng [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Ngholeg yr Iesu]], [[Rhydychen]].]]
 
Daeth rhoddion mwy sylweddol i’r coleg yn yr [[17eg ganrif|ail ganrif ar bymtheg]], y pennaf oedd rhodd o £5,000 gan Brifathro'r coleg: [[Eubule Thelwall]] o [[Rhuthun|Ruthun]], prifathro 1621-1630, er mwyn codi capel, neuadd a llyfrgell. Gadawodd Herbert Westfaling, Esgob [[Henffordd]], ddigon o arian i sefydlu dau gymrawd ac ysgoloriaeth (er iddo roi'r amod "''my kindred shall beshallbe always preferred before anie others''").<ref>{{ODNBweb|id=29111|first=Martin E. |last=Speight, ‘Westfaling |title=Westfaling, Herbert (1531/2–1602)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 (http://www.oxforddnb.com/view/article/29111, accessed 29 June 2006)}}</ref> Bu'n rhaid dymchwel y llyfrgell dan brifathrawiaeth Francis Mansell (1630-49), a adeiladodd hefyd ddwy risfa ychwanegol er mwyn denu meibion bonedd Cymru i’r coleg.
 
[[Leoline Jenkins|Leoline (Llywelyn) Jenkins]], prifathro 1661-73, a sicrhaodd ffyniant tymor hir y coleg, wrth iddo adael ar ei farwolaeth ym [[1685]] ystadau sylweddol a alluogodd sefydlu, a llenwi, nifer helaeth o gymrodoriaethau ac ysgoloriaethau .<ref>http://www.jesus.ox.ac.uk/history/benefactors.php ''Benefactors of Jesus College''. Date of access 29 June 2006.</ref>