Bae Bengal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Sri Lanka → Sri Lanca
B newid hen enw, replaced: Burma → Myanmar using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Bay of Bengal map.png|200px|bawd|Lleoliad Bae Bengal]]
[[Bae]] o siâp trionglog yng ngogledd-ddwyrain [[Cefnfor India]] sy'n gorwedd rhwng [[is-gyfandir India]] ([[India]] a [[Sri Lanca]]) i'r gorllewin a [[Myanmar|Burma]] ac [[Ynysoedd Andaman a Nicobar]] (a rhan o dde [[Gwlad Thai]] yn ôl rhai diffiniadau) i'r dwyrain yw '''Bae Bengal'''. Gellid dweud fod ei derfyniad deheuol yn cael ei ddiffinio gan linell ddychmygol rhwng [[Penrhyn Dondra]] yn Sri Lanca a phen gogleddol ynys [[Sumatra]]. Fe'i enwir ar ôl rhanbarth [[Bengal]]. Fe'i nodweddir gan ddau [[monsŵn|fonsŵn]] tymhorol mawr sy'n effeithio ar fordeithio a bywyd yr arfordir, sef y monsŵn gaeaf gogledd-ddwyreinol a'r monsŵn haf de-orllewinol.
 
Mae pen gogleddol y bae yn fas, yn rhannol am ei fod yn derbyn llawer o ddeunydd afonol a gludir gan [[Afon Ganga]], sy'n llifo i'r bae trwy sawl [[aber]] (Aberoedd y Ganga) yn ardal y [[Sundarban]], yng [[Gorllewin Bengal|Ngorllewin Bengal]] ([[India]]) a [[Bangladesh]]. [[Pysgota]] yw'r prif ddiwydiant traddodiadol gan bobl yr arfordir.
 
Mae gan Fae Bengal arwynebedd o tua 2,172,000 km². Mae sawl afon fawr – [[Afon Ganga]], [[Afon Brahmaputra]], [[Afon Ayeyarwady]], [[Afon Godavari]], [[Afon Mahanadi]], [[Afon Krishna]] ac [[Afon Kaveri]] – yn llifo i mewn iddo. Mae'r prif borthladdoedd ar ei lannau yn cynnwys [[Cuddalore]], [[Chennai]], [[Kakinada]], [[Machilipatnam]], [[Vishakapatnam]], [[Paradip]], [[Kolkata]], [[Chittagong]], a [[Yangon]].
{{eginyn Asia}}
 
[[Categori:Baeau|Bengal]]
Llinell 15 ⟶ 14:
[[Categori:Daearyddiaeth Bangladesh]]
[[Categori:Daearyddiaeth Myanmar]]
 
 
{{eginyn Asia}}