Astwrieg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Iaith frodorol cymuned ymreolaethol Tywysogaeth [[Asturias|Astwrias]] yw '''Astwrieg''' (neu '''Astwreg'''). Er bod dadlau ai iaith ynteu dafodiaith ydyw, mae'r Astwrieg neu 'asturianu' neu 'bable' bellach yn cael ei chydnabod yn swyddogol a'i hamddiffyn i ryw raddau gan Lywodraeth y Dywysogaeth. [[Iaith Romáwns]] ydyw, sy'n perthyn yn agos i [[Sbaeneg]] a [[Galisieg]]. Yn ôl ystadegau diweddar, mae hyd at 300,000 yn ei siarad er bod llawer o bobl yn siarad cymysgedd o Sbaeneg ac Astwrieg. Ni chynigir addysg trwy gyfrwng yr iaith er bod ysgolion cynradd bellach yn ei dysgu a gellir ei hastudio fel rhan o'r bachillerato. Ceid rhaglen newyddion yn yr iaith ar un adeg ond fe'i clywir ar y radio'n weddol aml o hyd. Mae rhai o sianeli lleol Astwrias, megis [[Tele Gijón]], yn dangos ambell raglen yn yr iaith hefyd. Mae cyfnod o normaleiddio ieithyddol yn dechrau dod i rym mewn rhai lleoedd, gwelir rhai arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog ac mae Cyngor Dinas [[Gijón]], er enghraifft, wedi sefydlu swyddfa arbennig i hyrwyddo a datblygu defnydd o'r iaith mewn sawl maes. Fodd bynnag, oherwydd statws isel yr iaith, yn enwedig yn y gorffennol, mae nifer o siaradwyr yn gyndyn i gydnabod eieu bod yn ei siarad.
 
== Rhai ymadroddion defnyddiol ==