Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 39:
==Y daith trwy Gymru==
===Gadael Llydaw===
{{Prif|Brwydr Maes Bosworth}}
Ymgasglodd llu enfawr ym Mhorthladd Ffrengig [[Honfleur]] yn niwedd Gorffennaf 1485, tua 500 ohonynt yn Saeson a Chymru. Yn hanes 'John Major' a gyhoeddwyd yn 1521 sonir i [[Siarl VIII, brenin Ffrainc]] gynnig 5,000 o filwyr i Harri, gyda mil o'r rheiny'n dod o'r [[Alban]], gyda Syr Alexander Bruce yn eu harwain. Ond nid yw'n glir faint yn union o Ffrancwyr a ddaeth ar fwrdd y llongau. Yn rhyfeddol, ni sonia'r un hanesydd o Loegr am yr Albanwyr hyn.<ref>{{cite book|last1=Skidmore|first1=Chris|title=Bosworth: The Birth of the Tudors|date=2013|publisher=Phoenix / Orion Books|location=London|isbn=978-0-7538-2894-6|page=224|accessdate=11 Ionawr 2016}}</ref> Wedi'r frwydr fe welwn i Harri wobrwyo Bruce gyda thaliad blynyddol o £20. Mae'r hanesydd Saesneg Chris Skidmore yn awgrymu fod dros hanner milwyr y llynges yn Ffrancwyr, llawer ohonynt o arsiwn Phillipe de Crevecoeur, Arglwydd Esquerdes. Cytuna Croniclwr Crowland gyda hynny, pan ddywedodd fod cymaint o Ffrancwyr ag oedd o 'Saeson'. Yn ôl Commynes roedd y 3,000 o Ffrancwyr a gasglodd 'ymhlith y dynion mwyaf didrefn Normandi cyfan!' Mae'n bosibl fod cadw'r rhain ar wahân i fyddin Rhys ap Thomas wedi bod yn ffactor pam y trafeiliodd y ddwy garfan ar wahân drwy Gymru.<ref>{{cite book|last1=Skidmore|first1=Chris|title=Bosworth: The Birth of the Tudors|date=2013|publisher=Phoenix / Orion Books|location=London|isbn=978-0-7538-2894-6|page=234|accessdate=11 January 2016}}</ref>