Dafydd Cadwaladr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
bedd
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Eglwys Llanycil Church, Bala, Gwynedd (084).jpg|bawd|Bedd Dafydd Cadwaladr yn Eglwys Sant Beuno, Llanycil.]]
Roedd '''Dafydd Cadwaladr''' ([[1752]] – [[9 Gorffennaf]] [[1834]]) yn gynghorwr gyda'r [[Methodistiaid Calfinaidd|Methodistiaid Calfinaidd]] (M.C.) ac yn fab i Cadwaladr Dafydd a'i wraig Catrin o Erw Dinmael, [[Llangwm, Conwy|Llangwm]], [[Conwy (sir)|sir Conwy]].<ref>{{dyf gwe|url=http://yba.llgc.org.uk/cy/c-CADW-DAF-1752.html|teitl=Y Bywgraffiadur Cymreig - Dafydd Cadwaladr|cyhoeddwr=Llyfrgell Cenedlaethol Cymru|dyddiadcyrchiad=14 Ebrill 2016}}</ref>
 
Bu ei rieni yn dilyn [[Anterliwt|anterliwtiauanterliwt]]iau a chymhorthau [[gwau]] traddodiadol, a thra'n ifanc dysgodd Dafydd o'r ''[[Llyfr Gweddi Gyffredin|Llyfr Gweddi]]'', ac i rigymu a darllen fel yr arferai adrodd y ''[[Gweledigaethau y Bardd Cwsc|Bardd Cwsg]]'' a ''[[Taith y Pererin|Thaith y Pererin]]'' yn y cymhorthau. Gweithiodd fel gwas ffarm mewn sawl lle ac yna, yn 1771, aeth i weini at y pregethwr William Evans o Fedw Arian ger y [[Y Bala|Bala]].
 
Priododd Judith Humphreys yn 1777 a symydodd y ddau i fyw i dyddyn Penrhiw, sef eiddo y Parch. Simon Lloyd. Ganwyd naw plentyn iddynt, a daeth dwy o'r merched yn adnabyddus yn eu dydd, sef: Elizabeth Davis, y nyrs '[[Betsi Cadwaladr]]' (Balaclava), a Bridget a fu'n gweini gydag [[Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer]] yn Llundain ac yn [[Llanofer]].
 
Dechreuodd Dafydd bregethu tua 1780 a chan y medrai'r Beibl ar dafod-leferydd, dywedasai un o'i ferched mai dan wau (h.y. 'yn gyflym iawn') y paratoai ei bregethau. Arferai gerdded pellteroedd maith i gyhoeddi'r efengyl ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys [[Llundain]], ac fel llawer o bregethwyr Methodistaidd eraill ei ddydd, roedd yn gyfaill mawr i [[Thomas Charles]]. Dafydd Cadwaladr a ganodd farwnadau i Mr. a Mrs. Charles <ref>Cadwaladr, Dafydd (1815) ; ''Ehediadau y Meddwl.'' Bala</ref>, a bu farw yntau ar 9 Gorffennaf 1834, a'i gladdu yn Llanycil <ref>Di-enw. (1836) ; ''Ychydig gofnodau am fywyd a marwolaeth Dafydd Cadwaladr, yr hwn a fu farw Gorffennaf 9, 1834, wedi bod yn bregethwr llafurus ym mysg y Trefnyddion Calfinaidd 52 mlynedd''. Bala.</ref>.
 
==Cyfeiriadau==