Emlyn (cantref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cantref yng ngogledd teyrnas Dyfed
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Yr oedd '''Emlyn''' yn gantref yng ngogledd teyrnas Dyfed. Heddiw mae ei diriogaeth yn cael ei rhannu rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae ei statws cynnar...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:29, 24 Medi 2007

Yr oedd Emlyn yn gantref yng ngogledd teyrnas Dyfed. Heddiw mae ei diriogaeth yn cael ei rhannu rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae ei statws cynnar yn ansicr ac mae'n bosibl ei bod yn enghraifft o gwmwd annibynnol a ddaeth yn gantref yn ddiweddarach.

Lleolir Emlyn i'r de o afon Teifi yn ne-orllewin Cymru. I'r gogledd, dros afon Teifi, mae'r cantref yn ffinio â chantref Is Aeron, i'r dwyrain mae'n ffinio â'r Cantref Mawr, i'r de â chwmwd Elfed, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.

Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd gydag afon Cuch yn eu gwahanu:

Eglwys Llawddog, Cenarth, oedd canolfan eglwysig bwysicaf y cantref. Mae ei ganolfan wleidyddol cynnar yn anhysbys. Yn ddiweddarach tyfodd Castell Newydd Emlyn yn ganolfan bwysig yng nghyfnod y Normaniaid.

Cysylltir y cantref â'r Mabinogi : mae Glyn Cuch, lle mae Pwyll yn cwrdd ag Arawn brenin Annwn, yn gorwedd yng nghwmwd Emlyn Is Cuch.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.