Emlyn Is Cuch
Roedd cwmwd Emlyn Is Cuch yn un o ddau gwmwd yng nghantref Emlyn, yn ne-orllewin Cymru. Heddiw mae ei diriogaeth yn gorwedd yn Sir Benfro. Roedd yn gwmwd o fryniau isel, coedwigoedd a chymoedd.
Math | cwmwd, cantref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Emlyn, Teyrnas Deheubarth, Teyrnas Dyfed |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Cuch |
Yn ffinio gyda | Emlyn Uwch Cuch, Is Coed, Elfed (cwmwd), Cemais |
Cyfesurynnau | 51.99°N 4.56°W |
Roedd afon Cuch yn dynodi'r ffin rhwng Emlyn Is Cuch a'r ail gwmwd, Emlyn Uwch Cuch. I'r gogledd ffiniai Emlyn Is Cuch â chwmwd Is Coed, cantref Is Aeron, gydag afon Teifi yn ffin naturiol rhyngddynt. I'r de ffiniai â chwmwd Elfed, cantref Gwarthaf, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.
Ni wyddys nemor ddim am hanes cynnar y cwmwd. Ar y dechrau bu'n rhan o deyrnas Dyfed ac wedyn Deheubarth. Fe'i meddianwyd gan y Normaniaid yn y 12g a daeth yn rhan o diriogaeth Normanaidd y De, a oedd yn estyniad o'r Mers. Codwyd Castell Cilgerran gan y Normaniaid yng ngogledd y cwmwd i warchod afon Teifi. Roedd y cwmwd yn cynnwys y plwyfi Bridell, Cilgerran, Clydau, Capel Colman, Llanfihangel Penbedw, Manordeifi a Penrydd, a rhan orllewinol Cilrhedyn[1]
Yn ddiweddarach creuwyd "cantref" (hundred) Cilgerran dan y Deddfau Uno yn 1536, seiliedig ar diriogaeth yr hen gantref. Fe'i rheolwyd o fwrdeistref ganoloesol Cilgerran.
Lleolir golygfa agoriadol Pedair Cainc y Mabinogi yn y cwmwd. Roedd llys Pwyll Pendefig Dyfed yn Arberth, cantref Penfro. Un diwrnod aeth allan i hela yng Nglyn Cuch lle cyfarfu Arawn brenin Annwn a chychwyn cylch chwedlau'r Pedair Cainc.
Mae'n debygol fod y bardd canoloesol Prydydd Breuan (fl. ganol y 14g) yn frodor o'r cwmwd hwn.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 1937)