Frederick Richard West: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Swydd Sussex > Gorllewin Sussex
Llinell 19:
Er gwaethaf ei ddichell bu bron i gynllun West fethu. Cefnogodd teulu Myddleton-Biddulph ymgeisydd arall o'r enw Joseph Ablet. Enillodd y ddau ymgeisydd 273 o bleidleisiau'r un. Cyflwynwyd deiseb i'r senedd i geisio pennu'r enillydd ond tynnodd Ablet ei enw yn ôl cyn clywed y ddeiseb, gan roi'r sedd i West.<ref name=":0" />
 
Gan wybod nad oedd triciau dan dîn yn mynd i drechu ei gefnder yr ail dro, penderfynodd West i beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad cyffredinol 1830. Safodd yn etholaeth [[East Grinstead]] yn swydd, [[Dwyrain Sussex]], lle'r oedd ei dad yn berchen ar ystâd. Roedd East Grinstead yn etholaeth bwdr, lle fu 32 o etholwyr yn ethol 2 AS. Dilëwyd yr etholaeth yn Neddf Diwygio Fawr 1832, gan adael West heb sedd.
 
Yn y cyfnod yma o'i yrfa seneddol bu West yn hynod wrthwynebus i roi hawliau sifil i [[Yr Eglwys Gatholig|Gatholigion]] ac [[Iddewon]]; safbwynt na fyddai wedi brifo ei obeithion etholiadol ymysg pleidleiswyr [[Eglwys Loegr|Anglicanaidd]] ac [[Anghydffurfiol]] Dinbych. I geisio cryfhau ei afael ar yr etholaeth ceisiodd codi morgeisi i brynu eiddo yn yr etholaeth (mewn cyfnod lle fu tenant, nad oedd yn cefnogi ei landlord, yn cael ei droi allan o'r eiddo). Gwrthododd bancwyr Iddewig Llundain, a phrif fancwyr Gogledd Cymru (teulu Catholig [[Sankey]]) benthyg arian iddo, mewn protest, gan ddryllio ei obeithion.<ref name=":1" />