Dyddio radiocarbon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
 
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
 
Llinell 3:
Dull o ddyddio gwrthrychau organig drwy ddefnyddio priodweddau [[Carbon|carbon-14]] ({{chem|14|C}}) yw '''dyddio carbon''' neu '''Dyddio radiocarbon'''. Mae {{chem|14|C}} yn [[isotop]] ymbelydrol.
 
Datblygwyd y dull hwn o ddyddio gan [[Willard Libby]] yn niwedd y [[1940au]] a daeth yn ddull safonol o fewn dim. Enillodd Liby [[Gwobr Cemeg Nobel|Wobr Cemeg Nobel]] am ei waith, yn 1960. Mae dyddio radiocarbon wedi'i seilio ar y ffaith fod radiocarbod yn cael ei greu yn yr atmosffer yn barhaus drwy ryngweithiad tonnau cosmig a [[nitrogen]]. Mae canlyniad yr adweithiad, sef radiocarbon, yn uno gydag [[ocsigen]] o'r aer i greu [[carbon deuocsid]] ymbelydrol, sydd yn ei dro'n cael ei dynnu i fewn i [[planhigyn|blanhigion]] drwy'r broses o [[ffotosynthesis]]. Yna, bwyteir y planhigion gan [[anifail|anifeiliaid]] a throsglwyddir y {{chem|14|C}} i'w cyrff. Pan fo'r planhigyn neu'r anifail yn marw, mae'n peidio cyfnewid y carbon gyda'r amgylchedd, ac o'r pwynt hwn ymlaen, mae'r swm o {{chem|14|C}} sydd ynddo'n lleihau, gan fod y {{chem|14|C}} yn lleihau, fel pob ymbelydredd arall. Mae mesur faint o {{chem|14|C}} sydd mewn sampl o blanhigyn neu anifail marw e.e. darn o bren neu asgwrn yn rhoi i ni wybodaeth a ddefnyddir i benderfynu pa bryd y bu'r planhigyn neu anifail farw. Po hynaf fo'r sampl, y lleiaf yw'r {{chem|14|C}}, a gan fod [[Hanner oes]] {{chem|14|C}} oddeutu 5,730 blwyddyn, yna mae'r dull hwn yn effeithiol i blanhigion sy'n iau na 50,000 o flynyddoedd oed.
 
==Gweler hefyd==