Boii: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Llwyth Celtaidd oedd y '''Boii''' (Lladin lluosog, yr unigol oedd ''Boius''; Groeg: ''Βοιοι''). Ceir cyfeiriadau atynt ar wahanol adegau yng... |
Enwau lleoedd |
||
Llinell 1:
Llwyth [[Y Celtiaid|Celtaidd]] oedd y '''Boii''' ([[Lladin]] lluosog, yr unigol oedd ''Boius''; [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Βοιοι''). Ceir cyfeiriadau atynt ar wahanol adegau yng [[Gâl|Ngâl]], yn cynnwys gogledd [[yr Eidal]], [[Pannonia]] (gorllewin [[Hwngari]] heddiw]]), [[Bohemia]], [[Morafia]] a gorllewin [[Slovacia]]. Cadwyd eu henw yn yr enw "Bohemia".
Dywedir gan awduron clasurol iddynt groesi o [[Gallia Transalpina]] ac ymsefydlu ar y gwastadeddau o amgylch [[Afon Po]], ar ôl gorchfygu'r [[Etrwsciaid]]
Roedd cangen arall o'r llwyth wedi ymsefydlu yn Pannonia. Dywed [[Strabo]] iddynt orchfygu ymosodiadau gan y [[Cimbri]] a'r [[Teutones]] yn yr [[2il ganrif CC]]. Ymunodd carfan ohonynt a'r [[Helvetii]] pan geisiodd y llwyth hwnnw ymfudo i orllewin Gâl, a chael eu gorchfygu gan [[Iŵl Cesar]]. Caniataodd llwyth yr [[Aedui]] i weddillion y rhain ymsefydlu yn eu tiriogathau hwy, yn cynnwys ''[[oppidum]]'' [[Gorgobina]].
Roedd cangen arall o'r Boii ar wastadeddau Hwngari o gwmpas [[Afon Donaw]]. Cofnodir iddynt gael eu gorchfygu gan y [[Daciaid]] tua [[40 CC]].
Mae olion ohonynt i'w gweld mewn geiriau megis '''Bohemia''' (Boio-haemum = cartref y Boii), Bafaria (Bai-ovarii = Baio-ymladdwr) a Bononia (yr hen enw ar Bologna).
|