Egni llanw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Stillmant (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 9:
 
==Morlynnoedd==
Morglawdd enfawr o garreg, fel arfer, sy'n cynnal dŵr y llanw a'i ollwng drwy dwrbein yw morlyn ee [[Morlyn Llanw Abertawe]]. Gweithia ar ei orau pan fo lefel y penllanw a lefel y trai ar ei eithaf yn fawr. Ym Morlyn Llanw Abertawe, mae'r gwahaniaeth hwn yn 10.5m metr ar ei uchaf. Bydd y morlyn yn cael y gallu i gynhyrchu 320 MW o bŵer.<ref>{{Cite web|url=http://www.tidallagoonpower.com/projects/swansea-bay/key-statistics/|title=Key Statistics|date=|access-date=|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
==Hanes==
Defnyddiwyd melinau llanw a thrai ers cyn yr [[Oesoedd Canol]] i droi offer mecanyddol ee maen melin i falu blawd. Adeiladwyd [[Melin Lanw Caeriw]] yn 1801 ond fe'i codwyd ar hen gaer o [[Oes Haearn]] a chrerir y pwll gan argae ar draws Afon Caeriw, drwy gau'r llifddorau pan fo'r llanw yn ei anterth (ar ei uchaf).. O dan y felin ei hun ceir dau lif-ddôr er mwyn gollwng y dŵr pan fo'r môr ar drai. Wrth i'r dŵr basio'r llifddorau hyn mae'n troi dwy olwyn ddŵr enfawr a hyn, yn ei dro'n troi olwynion cocos ac yn malu'r ŷd. Dyma'r unig felin lanw o'i bath yng Nghymru. Caewyd drysau'r felin yn 1937 ond yn 1972 dechreuwyd ei hadfer gan ei hagor fel arddangosfa ac oddi wefn ceir amgueddfa.
 
Yn 1966, roedd gorsaf pŵer llanw cyntaf y byd, sef ''Stankell vordredan ar Renk'' (Ffrangeg: ''Usine marémotrice de la Rance'') yn [[Llydaw]], wedi dechrau cynhyrchu trydan a gall gynhyrchu uchafswm o 240 MW<ref>{{Cite web|url=http://www.british-hydro.org/downloads/La%20Rance-BHA-Oct%202009.pdf|title=La Rance Tidal Power Plant|date=|access-date=|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Agorodd y 'Sihwa Lake Tidal Power Station' yn Ne Corea yn 2011, ac ar hyn o bryd yw'r orsaf pŵer llanw mwyaffmwyaf y byd.
 
==Gweler hefyd==