James Callaghan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 22:
'''Leonard James Callaghan, Arglwydd Callaghan o Gaerdydd''', [[Urdd y Gardys|KG]], [[Cyfrin Gynghorwr|PC]] ([[27 Mawrth]] [[1912]] – [[26 Mawrth]] [[2005]]), oedd [[Prif Weinidog y Deyrnas Unedig]] mewn llywodraeth [[Y Blaid Lafur (DU)|Lafur]] rhwng [[1976]] a [[1979]]. Adnabyddid ef wrth ei ail enw, James, wedi'i fyrhau i Jim yn aml, Llysenw arno yn aml oedd "Sunny Jim" neu "Big Jim". Ef yw'r unig berson sydd wedi llenwi pedair swydd bwysicaf y llywodraeth, sef [[Canghellor y Trysorlys]], [[Ysgrifennydd Cartref]], [[Ysgrifennydd Tramor]] a Phrif Weinidog; yn wir, efe yw'r unig berson sydd wedi llenwi y tair swydd gyntaf ar y rhestr yna. Ar [[14 Chwefror]], [[2005]], rhagorodd ef [[Harold Macmillan]] fel y Prif Weinidog Prydeinig ag oedd wedi byw yn hiraf, sef i'r oedran o 92 mlynedd, 10 mis ac 18 dydd.
[[Canghellor y Trysorlys]] oedd Callaghan rhwng [[1964]] a [[1967]]: cyfnod cythryblus i'r economi Brydeinig.
Yn dilyn buddugoliaeth Llafur yn yr etholiad Cyffredinol ym Mawrth [[1974]] daeth Callaghan yn ôl i'r Cabinet fel [[Ysgrifenydd Tramor]], gan gynnwys y cyfrifoldeb o ailgytundebu aelodaeth Prydain yn y [[Marchnad Gyffredin|Farchnad Gyffredin]]. Cefnogodd y bleidlais "Ie" yn refferendwm [[1975]] dros gadw Prydain yn y [[Cymuned Economaidd Ewropeaidd|Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC)]]. Pan ymddiswyddodd [[Harold Wilson]] ym [[1976]], etholwyd Callaghan fel arweinydd [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] gan yr aelodau seneddol.
Roedd ei unig dymor fel Brif Weinidog yn anodd gan nad oedd gan Lafur fwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd rhaid iddo drafod gyda'r pleidiau bach megis yr [[Plaid Unoliaethol Wlster|Unoliaethwyr]] yng Ngogledd Iwerddon a Phlaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru. Canlyniad hyn oedd cytundeb rhwng [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] a'r [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Blaid Ryddfrydol]]. Er fod Callaghan wedi bod yn gefnogwr i'r undebau, roeddent yn gwneud pethau anodd iddo ac
== Dolenni allanol ==
|