Cymdeithas y Cymod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
 
Trwy gyfnod anodd y Rhyfel Mawr fe ledodd yr argyhoeddiad o nerth Cymod Crist a'i berthnasedd i'n byd ni, ac yn 1919 daeth Cymdeithas y Cymod Rhyngwladol i fod. Bellach mae'n fudiad aml-ffydd gyda dros 40 o ganghenau tra wahanol ar draws y byd. Ym Mhrydain mae'r Gymdeithas wreiddiol wedi rhannu'n ganghennau annibynnol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban; a mae cysylltiadau clos hefyd gyda mudiadau heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r Gymdeithas yng Nghymru'n parhau i lynu wrth ei sylfeini Cristnogol, ond estynir croeso i rai o argyhoeddiadau gwahannol i rannu'n llawn yn ei gweithgareddau.
== Nod y Gymdeithas==
 
Dechreuodd y Gymdeithas mewn ymateb i ryfel gyda'r argyhoeddiad bod pobl yn un yng [[Crist|Nghrist]], beth bynnag fo'r rhaniadau a greuwyd gan gyd-ddyn. Nod y Gymdeithas heddiw yw parhau i dystio'n gadarn ac adeiladol i'r Cymod yng Nghrist, gan arddel heddychiaeth a didreisedd fel ffordd o fyw. Law-yn-llaw gyda gwrthwynebu rhyfel, ymrwymant ei hunain i sefydlu cymuned fyd-eang heddychlon sy'n rhydd o anghyfiawnder a gormes. Uniaethant gyda pawb dan ormes cyfundrefnau anghyfiawn, beth bynnag fo'u cenedl, hil neu grefydd, a chwiliant yn barhaus am ffyrdd newydd didrais o drawsnewid sefyllfeydd o'r fath.
== Didreisedd ==
 
Os bu yna syniad chwyldroadol erioed yna didreisedd yw hynny. Mae'r syniad o ddatrys gwrthdaro mewn modd di-drais yn syniad sy'n ceisio newid natur cymdeithas, ac yn fygythiad i'r rhai mewn grym. Cafodd y bobl sydd wedi arddel y syniad o ddidreisedd ei hystyried yn bobl beryglus ar hyd yr oesoedd.
 
Maent yn bobl sydd wedi cwestiynu mawredd [[Iwl Cesar]], [[Napoleon]], [[Teddy Roosevelt]] a [[Winston Churchill]]. Yn ystod pob gwrthdaro treisiol, boed yn [[Groesgad]], [[chwyldro]] neu ryfel mae yna bobl sydd wedi ymwrthod â lladd gan ddadlau fod trais yn bechod ac yn ffordd aneffeithiol yn y pen draw i ddatrys y sefyllfa. Mae'r bobl yma wedi talu'r pris hefyd am ddilyn ffordd tangnefedd, fel yr aeth yr Iesu i'r groes, ac fe lofruddiwyd [[Gandhi]] a [[Martin Luther King]], yn ein hoes ni.Dydy trais ddim yn datrys dim, ond yn arwain at fwy o drais. Mae trais yn ymddangos fel pe bae yn gweithio dros dro, ond yn y tymor hir mae'n creu anghyfiawnder a'r awydd i ddial. Gwelwn hyn drwy'r ffaith na fu rhyfel erioed sydd wedi arwain at heddwch parhaol. Nid trwy ryfel a thrais y cawn heddwch. Dim ond drwy gymod rhwng y 'gelynion' y daw heddwch.
== Crefydd a Heddychiaeth==
 
Mae pob crefydd yn y byd wedi trafod grym didreisedd a drygioni trais. Mae'r [[Hindwaeth|Hindŵiaid]] yn dweud mai didreisedd yw'r gyfraith uchaf, a'r ddelfryd. Mae crefydd y [[Bwdha]] yn gwahardd lladd gan gredu mai'r ffordd o gyrraedd y lefel uchaf o fodolaeth yw drwy gynorthwyo eraill. Ystyr y gair [[Islam]] yw "heddwch". Mae un o'r deg gorchymyn a gafodd [[Moses]] gan Dduw yn dweud "Na ladd". Fe aeth Iesu Grist yn bellach drwy orchymyn pobl i "garu eu gelynion". Roedd [[yr Eglwys Fore]] yn ymwrthod trais yn llwyr, ac roedd Cristnogion yn barod i farw yn hytrach na lladd neb.
 
Hyd at 312 OC pan ddaeth Cristnogaeth yn grefydd swyddogol yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], drwy dröedigaeth yr ymerawdwr [[Cystennin Fawr]], roedd Cristnogion wedi dilyn ffordd tangnefedd yn unig. Wedi 312 fe gafwyd am y tro cyntaf y syniad o'r milwr Cristnogol, ac erbyn y bumed ganrif roedd [[Awgwstws o Hippo]] wedi datblygu'r syniad o "[[rhyfel cyfiawn]]". Ond mae Cymdeithas y Cymod heddiw yn credu yn yr hyn a welir yn yr Efengylau sef esiampl Iesu Grist o ddidreisedd cyson yn ystod ei fywyd a'i farwolaeth ar y groes.
 
 
Dydy trais ddim yn datrys dim, ond yn arwain at fwy o drais. Mae trais yn ymddangos fel pe bae yn gweithio dros dro, ond yn y tymor hir mae'n creu anghyfiawnder a'r awydd i ddial. Gwelwn hyn drwy'r ffaith na fu rhyfel erioed sydd wedi arwain at heddwch parhaol. Nid trwy ryfel a thrais y cawn heddwch. Dim ond drwy gymod rhwng y 'gelynion' y daw heddwch.
 
== Gweler hefyd ==