Rachel Bilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cats
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
==Bywgraffiad==
===Bywyd Cynnar===
Ganwyd Bilson yn [[Los Angeles]], yn ferch i Janice, [[therapydd rhyw]], a Danny Bilson, ysgrifennwr/cyfarwyddwr/cynhyrchydd. Mae tad Bilson yn Iddew Americanaidd ac mae ei mam yn Americanes-Eidalaidd ond wedi ei geni yn [[Philadelphia]]. Mae tad Bilson yn dod o deulu busnes sioe; roedd ei hen-daid, George Bilson (ganwyd yn [[Leeds]], [[Swydd Gorllewin Swydd Efrog]], [[Lloegr]]), yn bennaeth ar yr adran hysbyslun yn [[RKO Pictures]], tra fod ei hen-nain, a anwyd yn [[Brooklyn]], Hattie Bilson yn ysgrifenwraig sgrîn ac mae ei thaid, Bruce Bilson, yn [[cyfarwyddwr ffilm|gyfarwyddwr ffilm]]. Fe ysgarodd rhieni Bilson yn ystod ei phlentyndod, ac yn 1997 fe ail briododd ei thad [[Heather Medway]], actores a mam i hanner-chwiorydd Bilson Hattie a Rosemary.
 
Mae sôn fod Bilson wedi bod trwy gyfnod “hunan-ddinistriol a gwrthryfelgar” yn ystod ei harddegau. Pan roedd hi’n 14, fe fuodd hi a grŵp o ffrindiau ei brawd mewn damwain car, gwrthdrawiad yn syth mewn i gar arall. Mewn canlyniad roedd Bilson yn anymwybodol am rai diwrnodau, mae ganddi graith uwch ben ei llygaid dde, ac mae hi weithiau’n dioddef o feirgynau ac yn colli’i chof. Dywedodd fod y profiad hyn wedi ei newid hi, ac wedi ei hannog i stopio mynd mewn i drwbl ac wedi ei stopio rhag mynd lawr y ffordd honno. Fe raddiodd Bilson o Walker Reed Middle School ym 1996 ac o Notre Dame High School ym 1999. Yn ystod ei hamser yn Notre Dame, fy ymddangosodd mewn cynhyrchiadau o Bye Bye Birdie, Once Upon a Mattress a ''[[The Crucible]]''.