Deinosor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dorothea Bate a map
Llinell 30:
[[Ymlusgiad|Ymlusgiaid]] sydd wedi darfod o'r tir, rhai ohonynt yn meddianu corff enfawr, yw '''deinosoriaid'''. Roedd y deinosoriaid cyntaf yn byw tua 210 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond amryfalasant yn gyflym ar ôl y cyfnod [[Triasig]]. Roeddent yn fwyaf niferus yn ystod y cyfnodau [[Jwrasig]] (ee [[Stegosaurus]]) a [[Cretasaidd|Chretasaidd]], ond wedi'r cyfnod Cretasaidd diflanodd pob rywogaeth ohonynt, heblaw am y rheini a ddatblygodd i fod yn [[aderyn|adar]], yn ystod y [[Difodiant Cretasaidd-Paleogen]] tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
 
Defnyddiodd [[Richard Owen]], gwyddonydd o [[Lloegr|Loegr]], y gair ''Dinosauria'' yn gyntaf ym mlwyddyn [[1842]]. Mae'r gair hwn yn gyfuniad o'r geiriau Groegaidd ''deinos'' ("ofnadwy" neu "arswydus") a ''sauros'' ("[[genau-goeg]]" neu "ymlusgiad"). Enwyd un rhywogaeth ar ôl Richard Owen, tad y deinosoriaid, sef yr Owenodon.
 
{{clirio}}
==Deinosoriaid yng Nghymru==
Ar wahân i Richard Owen, ceir llawer o baleontolegwyr eraill yng Nghymru a ystyrir o bwys mawr, gan gynnwys [[Dorothea Bate]] a aned yn [[Sir Gaerfyrddin]], y ferch gyntaf i weithio yn ''Natural History Museum'', Llundain.
Dim ond mewn creigiau a gafwyd eu ffurfio yn y Triasig a'r Jurasig y ceir olion deinororiaid, ac mae'r rhan fwyaf o greigiau drwy Gymru yn llawer hŷn na hynnny ac felly wedi eu ffurfio cyn oes y Deinosoriaid. Ond fe'i ceir mewn un rhan yn y de - rhwng [[Porthcawl]] a [[Phenarth]], ond prin iawn ydy'r olion:
 
Dim ond mewn creigiau a gafwyd eu ffurfio yn y cyfnodau Triasig a'r Jurasig y ceir olion deinororiaid, ac mae'r rhan fwyaf o greigiau drwy Gymru yn llawer hŷn na hynnny ac felly wedi eu ffurfio cyn oes y Deinosoriaid. Ond fe'i ceir mewn un rhan yn y de - rhwng [[Porthcawl]] a [[Phenarth]], ond prin iawn ydy'r olion:
[[Delwedd:Deinosoriaid Cymru Location of Dinosau finds in Wales.svg|bawd|canol|600px|Map o'r wyth lleoliad yng Nghymru lle cafwyd hyd i ffosiliau deinosoriaid (hyd at 2018).]]
 
* [[Ichthyosaur]]iaid yn bennaf. Mae ffosiliau o'r rhain wedi'u ffurfio pan syrthion nhw i'r môr, neu'r traeth a'u gorchuddio gan dywod yn eitha sydyn, cyn iddyn nhw gael eu bwyta. Roedd gan yr ichthyosaur gorff tebyg i ddolffin a dannedd miniog i ddal a llarpio cig.