William Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gŵr o Fôn sydd wedi ei anrhydeddu a’r fedal Croes Victoria yw '''William Williams''' – llongwr ac un o feibion Amlwch, Ynys...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:35, 31 Awst 2018

Gŵr o Fôn sydd wedi ei anrhydeddu a’r fedal Croes Victoria yw William Williamsllongwr ac un o feibion Amlwch, Ynys Mon.

Hanes

Un o Borth Amlwch a gafodd ei eni ar 5 Hydref, 1890 oedd Williams– un o chwech o blant i Richard Williams, pysgotwr lleol ac i Anne, ei wraig. Yr oedd y teulu yn byw yn Upper Sua Street yn wreiddiol a wedyn yn Well Street. Pan adawodd William yr ysgol aeth, fel llawer iawn o hogai’r Borth i’r môr. Bu’n hwylio ar ddwy chwaer long - y Cymri a’r Meyrick – sgwner haearn a’r llong fwyaf i’w hadeiladau yn iard longau William Thomas ac a lansiwyd ar 4 Ionawr, 1904. Bu Williams yn Ne America; gwelodd y Rio Grande dair gwaith cyn dychwelyd i Amlwch a liwtio efo’r Royal Naval Reserve ar 29 Medi 1914 fel llongwr/ saethwr. [1]

Cafodd ei alw i wasanaethu ar 2 Hydref, 1914 ac yn ystod ei gyfnod efo’r RNR dangosodd ‘wrhydri anhygoel a dewrder’ a dyna pam iddo gael ei urddo gan y brenin George efo’r fedal. William Williams oedd yr un enillodd y nifer fwyaf o fedalau o bawb ym Mhrydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyfarnwyd iddo:

  • V.C. (Victoria Cross);
  • D.S.M (Distinguished Service Medal) (medal i longwyr yn unig) ddwywaith;
  • Medaille Militaire o Ffrainc – medal a oedd yn eithriad i’w chyflwyno i rywun nad oedd Ffrancwr;
  • Seren 1914-15;
  • Medal y Rhyfel Mawr a Medal y Fuddugoliaeth.

Cafodd yn ddiweddarach, Fedal yr Amddiffyniad (The Defence Medal) 1939-45;

  • Medal y Coroni yn 1937
  • Medal y Coroni 1953.

Mae’r ffaith iddo ennill y tair cyntaf o fewn llai na chwe mis i’w gilydd yn dweud llawer am ei gymeriad a’i wrhydri. Erbyn Ebrill 1917, yr oedd llongau tanfor, (submarines neu U-boats) yr Almaen wedi suddo miloedd o dunelli o longau masnach Prydain – dros 880,000 tunnell mewn un mis. Golygai hynny fod anghenion sylfaenol bywyd yn dechrau mynd yn brin ac nid oedd llywodraeth y dydd wedi llawn sylweddoli peryglon y llongau tanfor ac felly ddim yn gallu ymateb iddynt. Wedi hir bendroni, penderfynwyd defnyddio llong – sgwner dri mast o Ynys Môn - y Mary B. Mitchell, (wedi ei henwi ar ôl ffrind i’r perchennog o Gastell Lleiniog Penmon). Fel llong i gario llechi y’i bwriadwyd yn gyntaf ond cafodd ei gwerthu a’i haddasu fel iot i’r Arglwydd Penrhyn ac a gafodd £60 y mis am ei rhoi ar fenthyg i’r Nefi. Fe’i haddaswyd eto a’i hail enwi yn Q.8 i hwylio Bae Biscay a’r "Western Approaches" yn yr Atlantic. Yr oedd y capten a’r criw yn gwisgo eu dillad eu hunain rhag ofn i neb eu gweld a’u hamau o fod yn llong ryfel yn chwilio am sybmarîn. Ar 20 Mehefin 1916, ymosododd ar, ac ella suddo un o U boats yr Almaen. Heddiw, mae ei hangor i’w gweld ar y cei yn Kirkcudbright, sir Dumfries a Galloway yn yr Alban.

Marwolaeth

Bu farw ar 23 Hydref 1965 yng Nghaergybi, yn 75 mlwydd oed. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gyhoeddus Amlwch. Gellir gweld ei fedalau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Enwyd stad o dai yn y dref yn Stad William Williams VC i’w goffau.

Cyfeiriadau

  1. A Curious Place. B.Hope. Bridge Books 1994