R. Tudur Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
dadwneud fandaliaeth
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
== Addysg ==
 
 
Yn un ar ddeg fe aeth ymlaen i Ysgol Ramadeg y Rhyl lle daeth dan ddylanwad [[T.I. Ellis]] ac [[S.M. Houghton]]. Dan Ellis daeth Tudur i ddechrau ymgyfarwyddo a'r [[Groeg]] ac Houghton y'i cyflwynodd i weithiau a syniadau'r [[Piwritaniaid]] am y tro cyntaf. Yn y cyfnod hwn y cyfarfu un o'i gyfeillion oes, y nofelydd [[Emyr Humphreys]]. Er y gwrthwynebiad gan eu cyd-ddisgyblion roedd Tudur a'i gyfaill Emyr wedi dod i arddel [[cenedlaetholdeb]] ac fe'i hysbrydolwyd yn fawr wrth ddilyn hynt a helynt llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Nid dim ond ei ddawn academaidd a'i Gymreictod oedd yn tyfu gwreiddiau yn y cyfnod hwn ond dwysaodd ei fywyd ysbrydol yn ogystal. Nododd iddo gael ei gyffwrdd yn arbennig gan bregeth o eiddo T. Glyn Thomas, Wrecsam ac hefyd gan bregeth o eiddo [[Martyn Lloyd-Jones]] a draddodwyd mewn ymgyrch efengylaidd ar bromenâd y Rhyl. Dyma'r noson lle 'taniodd y fatsien' fel y nododd mewn rhaglen ddogfen ar [[S4C]] yn y nawdegau.
Llinell 37 ⟶ 36:
Erbyn yr wythdegau roedd Tudur yn ffigwr crefyddol o bwys rhyngwladol. Ef oedd llywydd Cynghrair Annibynwyr y Byd rhwng 1981-85 ac yn gymedrolwr Cyngor Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru 1985-6. Ddechrau'r nawdegau fe'i gwahoddwyd, yn un o ugain yn unig, i gyfarfod tyngedfennol yn hanes undod efengylaidd ym Mhrydain i bwyso a mesur yr ymateb i Fendith Toronto; ef a ddaeth, gyda'i falans o gariad a doethineb, a heddwch i'r trafodaethau. Fe'i gipiwyd gan drawiad calon a hynny yn gwbl anisgwyliedig fis Gorffennaf 1998. Roedd yng nghanol gwaith sylweddol arall pan aeth at ei waredwr, cyfrol ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Erys y teyrngedau iddo gan ei wrthwynebwyr diwinyddol yn ogystal a'i gefnogwyr i R. Tudur Jones fod yn ffigwr sylweddol yn hanes crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru'r Ugeinfed Ganrif.
 
== FfynhonellauFfynonellau ==
Cymerwyd trwch yr ysgrif oddi ar www.rtudurjones.com - gwnaed hyn gyda chaniatad golygydd y wefan.