Cors Erddreiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gwarchodfa Natur Genedlaethol yng nghanolbarth Ynys Môn yw Cors Erddreiniog. Fel y gweddill o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru, mae dan ofal [[C...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:15, 31 Ionawr 2010
Gwarchodfa Natur Genedlaethol yng nghanolbarth Ynys Môn yw Cors Erddreiniog. Fel y gweddill o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru, mae dan ofal Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Saif y gors fymryn i'r dwyrain o bentref Capel Coch. Mae'n un o gorsydd mwyaf Môn, gydag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion dŵr. Ceir hefyd lyn bychan, Llyn yr Wyth Eidion. Ceir amrywiaeth o bryfed yma hefyd; mae'n un o'r ychydig leoedd yng ngogledd Cymru lle gellir gweld gloyn byw Brithog y gors. Defnyddir Cobiau Cymreig a Gwartheg Duon Cymreig i bori'r warchodfa.