Capel Coch
Pentref bychan yng nghymuned Llanddyfnan yng nghanolbarth Ynys Môn yw Capel Coch ( ynganiad ). Saif ar ffordd gefn, i'r gogledd o dref Llangefni ac i'r gorllewin o Benllech, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd. Mae 135.5 milltir (218.1 km) o Gaerdydd a 216.1 milltir (347.8 km) o Lundain.
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ynys Môn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.3155°N 4.3136°W, 53.3°N 4.3°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Ceir ysgol gynradd yno, Ysgol Tŷ Mawr, yr ysgol leiaf ym Môn. Fymryn i'r dwyrain o'r pentref mae Cors Erddreiniog, sy'n Warchodfa Natur Genedlaethol.
Hanes a hynafiaethauGolygu
Ar gwr Capel Coch, wedi ei ymgorffori mewn wal ar ymyl y ffordd ar ôl i'r lôn gael ei lledu rhai blynyddoedd yn ôl, ceir maen hir Maen Addwyn. Ceir hefyd weddillion hen felin wynt, Melin Llidiart.
Cynrychiolaeth etholaetholGolygu
Cynrychiolir Capel Coch yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[1][2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Gweler hefydGolygu
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele