Gramadeg Einion Offeiriad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎Y testun: manion a dolenni
Llinell 9:
::''Pedeir llythyren arhugeint kymraec yssydd. Nyt amgen.''
 
:''B'': [[Llawysgrif|Llsgr.]] [[Llawysgrifau Llansteffan|Llanstephan MS.3]], tua'r un cyfnod, dalennau 472-504, sy'n cychwyn â'r geiriau:
::''Kerddwryaeth kerdd dauawt yw hynn.''
 
:''C'': Llsgr. [[Peniarth MS.20]], c.1440, tud. 305-350, anghyflawn.<ref>[http://digidol.llgc.org.uk/METS/BYT00001/frames?div=312&subdiv=0&locale=cy&mode=reference Peniarth MS.20, ffotograff 303 ymlaen]</ref>
 
:''D'': Llsgr. Bangor MS.1, llawysgrif hŷngynharach na 1440, anghyflawn ac amherffaith.
 
Noda [[Thomas Parry (ysgolhaig)|Thomas Parry]] yn [[Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900]] fod y copi cynharaf sydd ar gael heddiw yn waith a luniwyd rhwng 1350 a 1400<ref>[[Thomas Parry (ysgolhaig)|Thomas Parry]], ''[[Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900]]'', Gwasg Prifysgol Cymru, 1945</ref>. Mae'n debygol mai addasiad ydyw o ramadeg [[Lladin]] a fodolasai eisoes. Priodolir y gwaith hwn i Ddwned (''[[Lladin'']]: ''Donatus'') a Phriscian.
 
Ni chyffyrddir â'r gynghanedd fel cyfundrefn yn y gramadeg. Cynhwysa'r gramadeg draethawd ar y llythrennau, sillafau, elfennau gramadeg, mydryddiaeth, y beiau gyda thrioedd cerdd.
 
Defnyddia Einion enghreifftiau o waith y [[Gogynfeirdd]] olaf a beirdd cynnar y bedwaredd ganrif ar ddeg i gefnogi ei ddisgrifiadau o'r mesurau. Dyma rai beirdd y dyfynnir peth o'u gwaith o fewn y gramadeg:
 
*Bleddyn Llwyd
*[[Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd]]
Llinell 32 ⟶ 33:
:''Llyfr Kerddwriaeth a wnaeth Einion Effeiriad o Wynnedd i Syr Rys ap Gruff.[udd] ap Howel ap Gruff. ap Ednyfed Vychan yr ynrydedd a moliant iddo ef.''
 
Argraffwyd peth o'r gwaith dan olygiad [[John Williams (Ab Ithel)|Ab Ithel]] gan y ''[[Welsh Manuscripts Society]]'' yn 1856 o dan y teitl anghywir ''Dosparth Ederyn[[Edeyrn Dafod Aur]]'' ond y mae'n ffynhonnell lwgr gan fod ffugiadau Iolo Morganwg andwyo'r llawysgrif y cymerwyd y testun ohoni.<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925.</ref>
 
Yn dilyn gwaith Einion a Dafydd, cafwyd nifer o ymgeisiadau i [[Gramadegau Cerdd Dafod|gyfundrefnu cerdd dafod]].