Cris Dafis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Awdur a bardd o Gymro
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tudalen newydd i Cris Dafis
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:00, 12 Gorffennaf 2019

Bardd ac awdur Cymreig a ddaw'n wreiddiol o Lanelli yw Cris Dafis. Mae'n byw ac yn gweithio fel cyfieithydd yng Nghaerdydd. Mae'n golofnydd rheolaidd i gylchgrawn Golwg.

Cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf o gerddi, Ac Ystrydebau Eraill, fel rhan o gyfres Beirdd Answyddogol Gwasg Y Lolfa ym 1988.

Wedi cyfnod maith o beidio â chyhoeddi ei farddoniaeth, cyhoeddwyd ei ail gasgliad, Mudo, fel pamffled gan wasg Cyhoeddiadau'r Stamp yn 2019[1]. Mae cerddi'r dilyniant hwn yn ymateb i'r brofedigaeth o golli cymar bron i bymtheg mlynedd ynghynt. Bu farw Alex, cymar Cris, wrth geisio ei achub o'r môr ar ynys Bali yn 2005. Datblygiad yw'r cerddi ar gasgliad a gyflwynwyd yn wreiddiol i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016. Ar y pryd, fe'u gosodwyd yn y Dosbarth Cyntaf gan Menna Elfyn.

Llyfryddiaeth

  • Ac Ystrydebau Eraill (1988) - Y Lolfa
  • Mudo (2019) - Cyhoeddiadau'r Stamp
  1. "Cris Dafis yn trafod galar mewn dilyniant newydd o gerddi". Golwg360. 2019-05-02. Cyrchwyd 2019-07-12.