Y Carneddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 42:
==Archaeoleg a hanes==
[[Delwedd:MaenyBardd.
Yn ystod y cyfnod [[Neolithig]], ymddengys mai o gwmpas godreuon y Carneddau yr oedd presenoldeb dynol. Ymysg yr olion o'r cyfnod hwn mae siambr gladdu [[Maen y Bardd]] ar ochr ddwyreiniol y Carneddau, ac olion tŷ yn [[Llandegai]] ger [[Bangor]]. Yn ystod rhan gyntaf [[Oes yr Efydd]] roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach, gan wneud y tir uchel yn fwy atyniadol. Ceir llawer o weddillion tai a chladdfeydd o'r cyfnod hwn, er enghraifft yng Ngwm Anafon uwchben [[Abergwyngregyn]] ac yng Nghwm Ffrydlas uwchben [[Bethesda]]. Yn y cyfnod yma y codwyd y meini hirion megis y rhai ym [[Bwlch y Ddeufaen|Mwlch y Ddeufaen]], ac y codwyd llawer o'r carneddi a welir ar y mynyddoedd a bryniau, er enghraifft ar [[Drosgl]].
|