Tanit: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B newid hen enw, replaced: Tunisia → Tiwnisia using AWB
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Tanit-Symbol.svg|200px|bawd|chwith|Symbol arferol y dduwies '''Tanit''']]
'''Tanit''' oedd [[duwies]] y [[lleuad]] ym [[mytholeg Ffeniciaidd]] a nawdd-dduwies dinas [[CarthageCarthago]] yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]]. Nid yw pawb yn cytuno ar wreiddiau a swyddogaeth Tanit, ond mae'n ymddangos ei bod yn perthyn i'r dduwies [[Astarte]] / [[Ishtar]] a addolid trwy'r [[Dwyrain Canol]], o'r [[Lefant]] i [[Mesopotamia|Fesopotamia]]. Un ganolfannau addoliad Astarte oedd Ffenicia, cartref gwreiddiol y [[Ffeniciaid]] (gogledd [[Israel]] a de [[Libanus]] heddiw). Pan ddaeth y Ffeniciaid i ogledd Affrica - gan ffoi o ddinas [[Tyros]] dan arweinyddiaeth [[Elissa]] yn ôl traddodiad - ddaethant â'r dduwies a duwiau Ffenicaidd eraill gyda nhw.
 
Yn CarthageCarthago roedd addoliad swyddogol Tanit yn ei gwneud yn gymar i [[Baal Hamnon]], duw'r haul a rhyfel. Roedd hi hefyd yn [[Mam-dduwies|fam-dduwies]], yn gofalu am esgor ar blant a'u magu ac yn gysylltiedig â ffrwythlondeb yn gyffredinol. Yn ôl awduron [[Rhufeiniaid|Rhufeinig]] cyfnod y [[Rhyfeloedd Pwnig]], a rhai [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] hefyd, roedd y CarthageniaidCarthaginiaid yn aberthu plant iddi. Ond mae'r dystiolaeth yn dyddio o gyfnod o elyniaeth a chystadleuaeth mawr rhwng CarthageCarthago a'r ddau rym hynny; mai rhai yn derbyn y dystiolaeth tra bod eraill yn dadlau ei bod yn bropaganda gwleidyddol i bardduo CarthageCarthago. Cafwyd hyd i fynwent yn CarthageCarthago - y [[Tophet]] - gyda nifer o ''stelae'' er cof am blant a fu marw'n ifanc.
 
Symbol Tanit oedd sylfaen trionglaidd â llinell syth dros ei ben gyda chylch ar ben hynny. Weithiau mae dau ben y llinell wedi'u troi i fyny. Mae sawl esboniad posibl am symbolaeth gyfoethog 'Arwydd Tanit'. Gellid dadlau ei fod yn portreadu ffigwr benywaidd - Tanit fel mam-dduwies - ond mae'n awgrymu hefyd mynydd (y tir / y Ddaear) a lleuad lawn. Mae rhai pobl yn gweld dylanwad symbol yr [[ankh]] (Bywyd) o'r [[Hen Aifft]] yn ogystal.
Llinell 10:
==Oriel==
<gallery>
Image:Diosa_tanit_cartago.jpg|Stele i Tanit, [[CarthageCarthago]], Tiwnisia
Image:Kerkouane2.JPG|Llawr mosaig yn dangos symbol Tanit, [[Kerkouane]]
Image:Square_weight_Tanit_Louvre_AO2042.jpg|Pwys carreg sgwar gyda symbol Tanit (Louvre, [[Paris]])