Fel y diarebiondiarhebion, mae gan y wireb hanes hir mewn [[llenyddiaeth]]. Gelwir barddoniaeth sy'n cynnwys elfen amlwg o wireb yn 'canu gwirebol'. Roedd y ''genre'' yma o ganu yn boblogaidd yn yr [[Oesoedd Canol]] ac fe'i ceir gyda chanu natur yn aml. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw ''[[Englynion y Clyweit]]'' ('Englynion y Clywaid'), casgliad o [[englyn]]ion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12g neu ddechrau'r 13eg, yn ôl [[Ifor Williams]]. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':
Mae canu natur yn elfen amlwg yn y canu gwirebol; elfen amlwg arall yw'r elfen o brofiad dynol. Dyma ran o gyfres hir sy'n cynnwys y ddwy elfen trwy ei gilydd a adnabyddir fel 'Y Gnodau' am fod pob llinell bron yn dechrau gyda'r ffurf ferfol ''gnawd'' ('arferol yw'):