Y Wahanfa Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
creu
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:16, 12 Rhagfyr 2019

Enw ar y cadwyni o fynyddoedd a'r llwyfandiroedd ar hyd arfordiroedd dwyreiniol a de-ddwyreiniol Awstralia yw'r Wahanfa Fawr. Mae'n ffurfio ffin rhwng yr ardaloedd arfordirol tymherus a'r mewndir sych, cras, a dyma wahanfa ddŵr rhwng yr afonydd sydd yn llifo i'r Môr Cwrel a Môr Tasman a'r rhai sydd yn llifo i Gwlff Carpentaria a Chefnfor India. Mae'r Wahanfa Fawr yn cynnwys yr Alpau Awstralaidd, Cadwyn McPherson, Cadwyn Lloegr Newydd, y Mynyddoedd Gleision, a bryniau'r Grampians.

Lleoliad y Wahanfa Fawr (melyn).
Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.