Llwyfandir

tirwedd uchel gwastad

Mae llwyfandir (weithiau hefyd gwastadedd) yn derm daeareg a daearyddiaeth sy'n cyfeirio at dir cymharol wastad, sy'n cael ei godi'n sylweddol uwch na'r ardal gyfagos, yn aml gydag un ochr neu fwy â llethrau serth.[1] Gellir ffurfio llwyfandir gan nifer o brosesau, gan gynnwys magu magma folcanig, allwthio lafa, ac erydiad gan ddŵr a rhewlifoedd. Mae llwyfandir yn cael eu dosbarthu yn ôl yr amgylchedd o'u cwmpas fel rhyng-gon (intermontane), piedmont, neu gyfandirol.

Llwyfandir
Mathtirffurf, ardal ddaearyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fel arfer mae ffurfiant llwyfandir yn deillio o ddrychiad tir a achosir gan rymoedd tectonig neu erydiad y tir amgylchynol. Yn yr achos cyntaf, mae'n ymwneud â chymhwyso grymoedd tectonig ar haenau llorweddol y pridd, sydd, pan fyddant yn dod ar draws namau ffafriol, yn cynhyrchu drychiad ardal sy'n cynnal y llorwedd ond ar lefel uwch na'r amgylchedd. Yn yr ail achos, mewn erydiad, gall erydiad llorweddol ffurfio afonydd sy'n dyfnhau'r pridd ac yn gadael ardaloedd anghysbell ac uchel, fel arfer oherwydd eu bod wedi'u gwneud o ddeunyddiau sy'n gallu gwrthsefyll erydiad.

Y Meseta Central, llwyfandir canolbarth Sbaen

Llwyfandir tanfor golygu

Mae yna hefyd llwyfandir tanfor, ond yn yr achos hwn gellir eu ffurfio hefyd trwy suddo neu orlifo llwyfandiroedd a ddaeth i'r amlwg o'r blaen. Er enghraifft, mae'r Ynysoedd Seychelles wedi'u lleoli ar lwyfandir neu lwyfan a arhosodd ar wahân i'r cyfandir ac a gafodd ei foddi yn ddiweddarach, fel y gwahanol lwyfannau cyfandirol. Gallant hefyd gael eu ffurfio gan allyriadau folcanig tanfor, y gellir eu cronni ar ffurf llwyfandir pan fyddant yn dod i gysylltiad â dŵr.

Llwyfandiroedd y byd golygu

 
Mynydd Roraima yn Feneswela
 
Llwyfandir Tibet, gyda mynyddoedd y Himalaya i'r de ac anialwch y Taklamakan i'r gogledd

Ceir enghreifftiau o lwyfandiroedd ar draws y byd, gan gynnwys:

Affrica golygu

  • Ucheldiroedd Ethiopia sy'n cynnwys rhan helaeth o ganolbarth y wlad
  • Yr Highveld (Hoëveld yn Afrikaans gwreiddiol), De Affrica

America golygu

  • Llwyfandir uchel yr Andes, dros 3,000 metr o uchder, i'r dwyrain o'r Andes.
  • Llwyfandir y Colorado, llwyfandir sy'n croesi ffiniau taleithiau Colorado, gogledd orllewin New Mexico, dwyrain Utah a gogledd Arizona
  • Tepuys of the Guaiana massif yng ngogledd orllewin De America dros ddwyrain Feneswela cyfan o Guyana, Suriname a Guiana Ffrengig, lle mae Rhaeadr yr Angel yn disgyn, y rhaeadr uchaf yn y byd
  • Altiplano - llwyfandir sy'n cwmpasu gorllewin Bolifia a rhannau o dde Periw a gogledd Chile. Lleolir La Paz, prifddinas Bolifia a'r brifddinas uchaf yn y byd, ar yr Altiplano

Asia golygu

  • Llwyfandir Tibet, yr uchaf a'r mwyaf yn y byd, wedi'i ffinio gan fynyddoedd uchel fel yr Himalaya a Karakoram. Gelwir yn aml yn "to y byd"
  • Llwyfandir Loes yng nghanol Xeina
  • Llwyfandir Deca, sy'n ymestyn dros bron y cyfan o benrhyn yr India
  • Llwyfandir Iran, sy'n cwmpasu llawer o Iran ac Affganistan

Ewrop golygu

Cymru golygu

Does dim llwyfandiroedd mawr yng Nghymru. Llwyfandir y Mynyddoedd Duon yn ne sir Powys i'r dwyrain o'r afon Wysg gan ymestyn am Y Fenni a'r Gelli Gandryll.[2]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu