"Bugs" Moran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhy hir i fod yn eginyn
dolen
Llinell 4:
Adelard Cunin oedd ei enw'n wreiddiol pan gafodd ei eni yn [[St. Paul, Minnesota|St. Paul]], [[Minnesota]]. Roedd ei rieni yn fewnfudwyr o [[Gwlad Pwyl|Wlad Pwyl]] ac [[Iwerddon]]. Pan arestiwyd ef am y tro cyntaf, galwodd ei hun yn "George Miller." Symudodd i Chicago pan oedd yn 19 oed a chysylltwyd ef yn fuan iawn gyda gangiau. Fe'i carcharwyd deirgwaith cyn iddo fod yn 21. Un tro pan gafodd ei arestio, yn hytrach nac ailddefnyddio enwau a oedd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, dywedodd mai ei enw oedd George Clarence Moran. Glynnodd yr enw hwn (Moran) wrtho am weddill ei oes.
 
Roedd yn casau'r [[yr Eidal|Eidalwyr]] - gangiau [[Al Capone]] ayb - gan eu galw'n "''greaseballs''" ac yn "''dagos''". Roedd hyn yn ffyrnigo'i elynion.
Fel [[Yr Eglwys Gatholig Rufeinig|Pabydd]] da, roedd Moran yn gwrthod rhedeg [[puteindy|hwrdai]], gan sbio i lawr ei drwyn ar Capone, yn baeddu ei ddwylo gyda rhwydwaith o buteindai. Dyfnhaodd yr elyniaeth rhwng y ddau gangster.