Mae Afon Kabul neu Afon Kabal (Perseg: دریای کابل) yn afon sy'n tarddu yng nghadwyn Sanglakh yn Affganistan, ac sy'n cael ei gwahanu oddi ar afon Helmand gan Fwlch Unai. Dyma afon fwyaf dwyrain Affganistan.

Afon Kabul
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMaidan Wardak, Kabul, Laghman, Nangarhar, Khyber Pakhtunkhwa Edit this on Wikidata
GwladBaner Affganistan Affganistan
Baner Pacistan Pacistan
Cyfesurynnau33.918648°N 72.230423°E Edit this on Wikidata
AberAfon Indus Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Swat, Afon Alingar, Surkhab, Afon Logar, Afon Panjshir, Afon Kunar Edit this on Wikidata
Dalgylch75,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd460 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Afon Kabul ym mis Medi, Kabul
Afon Kabul ym mis Gorffennaf, ger Jalalabad

Mae'n llifo 700 km cyn ymuno ag afon Indus ger Attock, ym Mhacistan. Mae'n llifo trwy ddinasoedd Kabul, Chaharbagh, Jalalabad, a (ar ôl llifo i Bacistan tua 30 km i'r gogledd o Fwlch Khyber) Nowshera. Mae'r afonydd sy'n llifo iddi yn cynnwys afon Logar, afon Panjshir, afon Kunar (sy'n cychwyn fel Afon Mastuj yn Chitral) ac afon Alingar.

Cyfeirir at Afon Kabul yn y Rig Veda, ysgrythur gynharaf Hindŵaeth, dan yr enw Kubhā (cyfeirir at sawl afon arall yn Affganistan yn y Rig Veda). Newidiodd yr enw Sanscrit hwnnw i Kābul gyda threiglad amser.