Ardal Cannock Chase

ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford

Ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Cannock Chase (Saesneg: Cannock Chase District).

Ardal Cannock Chase
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Stafford
PrifddinasCannock Edit this on Wikidata
Poblogaeth100,109 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Stafford
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd78.8825 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7306°N 1.9703°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000192 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Cannock Chase District Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 78.9 km², gyda 100,109 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn ne Swydd Stafford. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Stafford, sef Ardal De Swydd Stafford, Bwrdeistref Stafford ac Ardal Lichfield, yn ogystal â sir Gorllewin Canolbarth Lloegr i'r de.

Ardal Cannock Chase yn Swydd Stafford

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o ardaloedd llywodraeth leol llai.

Enwir yr ardal yn ôl Cannock Chase, sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ei rhan ogleddol. Rhennir yr ardal yn wyth plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys ei phencadlys yn nhref Cannock. Mae'r ardal yn cynnwys trefi Hednesford a Rugeley hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 20 Mawrth 2020

Gweler hefyd golygu