Llong hwylio Ewropeaidd o'r 14g i'r 17g oedd y garac[1] a chanddi, gan amlaf, dri hwylbren: y prif hwylbren a'r hwylbren blaen â rigin sgwâr, a hwylbren y llyw â rigin trisgwar o'r naill ben i'r llall. Weithiau crogwyd hwyl sgwâr o dan y polyn blaen, a brig-hwyliau ar y prif hwylbren a'r hwylbren blaen. Codwyd pedwerydd hwylbren o'r enw bonaventure, y tu ôl i hwylbren y llyw, ar y caracau mwyaf, a chanddo rigin trisgwar arall.[2]

Carac
Carac yn y paentiad Tirlun gyda Chwymp Icarus (tua 1560) a briodolir yn draddodiadol i Pieter Bruegel yr Hynaf.
Enghraifft o'r canlynolmath o long Edit this on Wikidata
Mathllong hwylio Edit this on Wikidata
GweithredwrSwedish Navy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Datblygodd y garac ym Mhortiwgal ar sail yr hen gog, a chanddi un hwylbren. Adeiladwyd corff dwfn a llydan ar gyfer y garac, gyda starncas uchel a fforcas uwch fyth yn sefyll dros flaen y llong. Mae'n bosib i'r caracau mwyaf fesur rhyw 45 m (150 troedfedd) ar eu hyd ac yn dadleoli mil o dunelli. Y garac oedd y brif long fasnach yn y Môr Canoldir, ac yn Oes y Darganfod y garac a'r garafel oedd prif longau fforio'r Ewropeaid i'r Byd Newydd.

Y garac oedd rhagflaenydd yr aliwn, llong ryfel â rigin tebyg ond wedi ei hadeiladu gyda'r fforcas a'r starncas yn is, a'r corff yn hirach o'i gymharu ag hyd y pen trawst.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "carrack".
  2. (Saesneg) Carrack. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2022.