Y Byd Newydd

(Ailgyfeiriad o Byd Newydd)

Enw a roddwyd ar diroedd hemisffer y gorllewin, hynny yw cyfandir yr Amerig, yn Oes y Darganfod yw'r Byd Newydd. Mae'n cyferbynnu'r tiroedd a ddarganfuwyd gan Ewropeaid yn y 15g a'r 16g â'r Hen Fyd, sef Ewrop, Asia, ac Affrica (neu Affrica-Ewrasia). Defnyddir yr enw hefyd yn ddiweddarach i grybwyll ynysoedd y Cefnfor Tawel a chyfandir Awstralia, a ddarganfuwyd gan fforwyr Ewrop o'r 16g i'r 18g. Daeth yr enw yn boblogaidd o ganlyniad i'r pamffled Mundus Novus, a briodolir i'r Eidalwr Amerigo Vespucci, yr un a roddai ei enw i'r Amerig.

Map Sebastian Munster o'r Amerig (1561).

Cychwynnodd Oes Aur Fforio yn y 15g pryd teithiodd morwyr o Bortiwgal ar hyd arfordir gorllewinol Affrica ac i ynysoedd dwyrain yr Iwerydd. Sefydlwyd môr-lwybrau masnach o Ewrop i Asia, ac ymdrechai ambell fforiwr i ganfod llwybrau gorllewinol i gyrraedd yr India a Tsieina drwy hwylio i ochr draw'r Iwerydd. Priodolir darganfyddiad yr Amerig yn draddodiadol i Christopher Columbus, a laniodd yn y Caribî yn gyntaf yn 1492, er i'r Llychlynwyr sefydlu gwladfeydd yn yr Ynys Las a Newfoundland rhyw 500 mlynedd cyn hynny. Yn y canrifoedd wedi mordeithiau Columbus, sefydlwyd trefedigaethau Ewropeaidd ar draws yr Amerig, a gafodd effeithiau dinistriol ar y bobloedd frodorol.

Defnyddir y termau Byd Newydd ac Hen Fyd o hyd i ddisgrifio anifeiliaid, planhigion, a gwinoedd.