Christmas Price Williams

gwleidydd a pheiriannydd

Roedd Christmas (Chris) Price Williams (25 Rhagfyr, 188118 Awst, 1965) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros etholaeth Wrecsam.

Christmas Price Williams
Ganwyd25 Rhagfyr 1881 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 1965 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Teulu ac addysg golygu

Fe'i ganed, fel y cyfeiria'i enw, ar Ddydd Nadolig, a hynny yn 1881.[1] Roedd yn fab i Peter Williams, a oedd yn Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni enfawr Brymbo Steel Company ger Wrecsam. Mynychodd Ysgol Grove Park yn y dref honno cyn cwbwlhau gradd mewn gwyddoniaeth ac yna gradd Mesitr (MSc) ym Mhrifysgol Victoria, Manceinion.[1] Yn 1909 priododd Marion Davies o Frymbo[1] awdur nifer o nofelau a dramâu.[1]

Gyrfa golygu

Gweithiodd am beth amser fel drafftsmon a pheiriannydd yn Sheffield, Warrington ac yn Ne Affrica.[2] Bu'n Rheolwr am ran o'r amser ac ymchwiliodd hefyd i ddiwydiannau Canada[1].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Y Bywgraffiadur WILLIAMS , CHRISTMAS PRICE (1881 - 1965), gwleidydd a pheiriannydd adalwyd 2 Rhagfyr 2017.
  2. The Times, Tŷ'r Cyffredin 1929; Politico's Publications 2003 t. 118


  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.